Ewch i’r prif gynnwys

Drain a Blodau

7 Tachwedd 2016

Consultation between man and woman

Mae'r llyfryn newydd wedi casglu barn menywod o gymunedau lleiafrifol sydd wedi profi problemau ffrwythlondeb.

Roedd Thorns and Flowers: Infertility experiences of Black and Minority Ethnic Women yn brosiect o dan arweiniad academyddion benywaidd o brifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth ac a ariannwyd gan Grwsibl Cymru.

Gan ddefnyddio gweithdy tynnu llun, anogwyd naw o fenywod o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (DLLE) i fynd i'r afael a’u syniadau a'u teimladau am anffrwythlondeb, ac i’w trafod. Mae hwn yn aml yn bwnc tabŵ mewn cymunedau lleiafrifol a gall wneud i’r rhai sydd wedi’u heffeithio deimlo’n ynysig.

Drwy’r gweithdy creadigol, a drefnwyd ar y cyd â’r elusen o Gymru Women Connect First, trafododd y menywod effaith emosiynol negyddol methu beichiogi, y pwysau i gael plant a’r stigma pan nad oeddent yn gallu beichiogi, a sut chwilion nhw am gysur yn eu crefydd.

Hefyd nodon nhw addysg anffrwythlondeb ac ymwybyddiaeth o anffrwythlondeb yn eu cymuned fel cyfrwng i helpu i herio safbwyntiau traddodiadol a thabŵ ynghylch anffrwythlondeb. Awgrymon nhw y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gydlynu â lleoedd ac arweinwyr crefyddol oherwydd bod pobl, a dynion yn enwedig, yn fwy parod i wrando yn y lleoedd hyn.

Meddai Dr Sofia Gameiro, y prif ymchwilydd o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil anffrwythlondeb yn canolbwyntio ar gyplau heterorywiol gwyn, dosbarth canol, ac felly nid yw hyn yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol gwahanol. O ganlyniad efallai nad yw ein gwasanaethau gofal iechyd yn ymdrin â rhai o anghenion penodol menywod DLLE anffrwythlon."

Wrth weithio gyda'r arlunydd Paula Knight, defnyddiodd y menywod dynnu llun i droi eu barn a'u profiadau’n waith celf, a ddatblygwyd yn ddiweddarach yn llyfryn comig.

Ysbrydolwyd y defnydd arloesol hwn o weithdy tynnu llun i gasglu ac i ledaenu barn ar bynciau sensitif gan brosiect blaenorol gyda'r elusen ieuenctid Affricanaidd WhizzKids United, dan arweiniad Dr Lisa El Refaie o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Meddai Dr El Refaie: "Yn y prosiect blaenorol, cynigiodd gweithdai tynnu llun fforwm i Affricanwyr ifanc rannu eu profiadau a'u gwybodaeth am HIV/Aids ac Ebola, gyda’i gilydd ac yn eu cymunedau. Mae'r prosiect presennol yn adeiladu ar y profiad llwyddiannus hwn er mwyn datblygu gweithdai tynnu llun fel methodoleg ymchwil arloesol y gellir ei defnyddio mewn amgylchiadau lle nad yw cyfweliadau a grwpiau ffocws traddodiadol yn briodol, o bosibl."

Ychwanegodd Dr Gameiro: "Tynnodd y prosiect hwn sylw at botensial gweithdai tynnu llun i archwilio pynciau personol a sensitif ac i oresgyn rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol. Cafodd y menywod fwynhad wrth wneud yr elfen tynnu llun, ac roedd yn rhywbeth a’u galluogai i fynegi eu teimladau heb fod angen geiriau. Roedd eraill yn gwerthfawrogi'r cyfle i rannu eu profiadau mewn amgylchedd cefnogol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn yn cynyddu ymwybyddiaeth am brofiadau anffrwythlondeb y menywod hyn yn eu cymunedau eu hunain, ond hefyd ymhlith llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd."

Bydd Thorns and Flowers: Infertility experiences of Black and Minority Ethnic Women yn cael ei lansio ddydd Mawrth 8 Tachwedd yn UNITE, ar y cyd ag Women Connect First.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael yma.

Rhaglen datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain uchel ei pharch sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru. Dyma'r chweched flwyddyn yn olynol i'r rhaglen gael ei chynnal, ac mae'n cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.