Ewch i’r prif gynnwys

£4.3m i hybu sylfaen ymchwil y DU mewn dementia

2 Tachwedd 2016

MRI of brain

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol sydd wedi ennill cyfran o £4.3m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) i dyfu a datblygu sylfaen ymchwil y DU gwyddoniaeth dementia.

Bydd dyfarniadau Momentwm, sydd wedi'u creu i gefnogi Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (DRI), yn agor llwybrau ymchwil newydd a allai drawsnewid ymchwil dementia yn y DU. Y dyfarniadau hyn yw'r camau cyntaf wrth bennu beth fydd DRI yn gallu ei wneud, ac fe gaiff ei ariannu drwy gyd-fuddsoddiad o £250m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r cyrff sefydlu, y Gymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer UK. Disgwylir iddo fod ar waith yn llawn erbyn 2019.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn defnyddio'r dyfarniad i recriwtio dwy 'Seren Ddisglair' sy'n gweithio ar feysydd newydd ac ategol: llwybrau imiwnedd sy'n berthnasol i dementia, a datblygu modelau bôn-gelloedd (iPSC) o glefydau niwroddirywiol. Mae gan y Brifysgol arbenigedd cyffredinol sy'n cynnwys geneteg clefydau, niwrofioleg, imiwnedd, delweddu'r ymennydd a meddygaeth ar gyfer y boblogaeth, ac mae hyn oll yn cynnig sylfaen eang i'r rhai sy'n cael eu recriwtio. Yn ogystal, bydd y Sêr Disglair hefyd yn cael 2 flynedd o gefnogaeth ôl-ddoethurol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, yn ogystal â myfyriwr PhD i'w helpu i ddatblygu eu rhaglen ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Kim Graham, Deon Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o gael Dyfarniad Momentwm y Cyngor Ymchwil Feddygol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu adnoddau yn Rhwydwaith Ymchwil Dementia Prifysgol Caerdydd...”

“Mae'r rhwydwaith hwn ar flaen y gad yn rhyngwladol. Mae ein Sêr Disglair yn gallu manteisio ar isadeiledd ymchwil o'r radd flaenaf a chyfleoedd ymchwil i'w helpu i ddatblygu rhaglenni newydd mewn ymchwil dementia sy'n ategu ein gwaith parhaus ym meysydd geneteg, systemau imiwnedd a modelu bôn-gelloedd. Bydd buddsoddi mewn ymchwil sy'n canolbwyntio ar amlygu achosion dementia, un o brif nodau Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, yn galluogi therapïau newydd i gael eu creu i leihau baich sylweddol dementia."

Yr Athro Kim Graham Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter

Ychwanegodd Dr Rob Buckle, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwyddoniaeth yn y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Y Sefydliad hwn fydd y buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil dementia yn y DU, ac rydym yn falch o adeiladu'r sylfaen ar ei gyfer nawr. Bydd y dyfarniadau hyn yn trawsnewid ac yn creu cyfleoedd newydd ar draws maes ymchwil dementia ac yn rhoi hwb i alluogi'r Sefydliad i ddechrau gwneud gwahaniaeth cyn gynted â phosibl ar ôl ei lansio."

Mae Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yn cael ei ariannu drwy gyd-fuddsoddiad o £250m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r cyrff sefydlu, y Gymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer UK. Yn ogystal â gwyddoniaeth arloesol sy'n darganfod pethau newydd, bydd y Sefydliad yn ariannu ymchwil er mwyn gwella strategaethau gofal ac iechyd cyhoeddus i leihau'r risg o ddementia i genedlaethau'r dyfodol. Y flwyddyn nesaf, bydd y Gymdeithas Alzheimer yn ariannu Canolfannau Rhagoriaeth newydd er mwyn cryfhau adnoddau a galluedd y DU ym maes gofal dementia.

Rhannu’r stori hon

Ein hymagwedd at ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth yw dod â phobl, gwybodaeth a sgiliau ynghyd o ystod o ddisgyblaethau i ganolbwyntio ar themâu rhyngddisgyblaethol.