Ewch i’r prif gynnwys

Gofal gwell i bobl sy'n marw

2 Tachwedd 2016

Holding hands of patient

Mae ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd wedi amlygu'r angen dybryd am ofal gwell i bobl sy'n marw, a bod angen rhagor o gefnogaeth ar gyfer y perthnasau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.

Yn ôl arolwg oedd yn cynnwys dros 1,400 o ofalwyr, gan gynnwys perthnasau, ffrindiau a gweithwyr gofal iechyd, y prif feysydd sy'n peri rhwystredigaeth yw'r anawsterau wrth gael gafael ar ofal a hyfforddiant, yn enwedig y tu allan i oriau gwaith, cydlynu gwael rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a diffyg cyfathrebu a dealltwriaeth drwyddi draw ynghylch marwolaeth a marw.

Nod yr arolwg oedd amlygu cwestiynau ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd. Fodd bynnag, wrth ddadansoddi'r data daeth i'r amlwg bod llawer o'r ymatebion yn ymwneud â phrofiad personol, hanesion a chwestiynau yn hytrach nag ymchwil glinigol.

Felly, cafodd adroddiad newydd a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ei gomisiynu i ddadansoddi data'r arolwg yn fanylach.

Dyma rai o'r pryderon cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg:

  • Penderfynu ar y lle gorau i berthynas farw
  • Diffyg cymorth y tu allan i oriau gwaith
  • Y pynciau sy'n ymwneud â marwolaeth y mae pobl yn amharod i'w trafod
  • Cael gwybodaeth am y gwahanol driniaethau sydd ar gael, deall symptomau fel poen ac aflonyddwch, maeth, a defnyddio meddyginiaeth megis morffin
  • Cael gafael ar wasanaethau, therapïau ac offer arferol neu arbenigol i alluogi gwell gofal yn y cartref
  • Anghenion cleifion sydd â dementia a chyflyrau angheuol eraill heblaw am ganser megis clefyd niwronau motor neu sglerosis ymledol
  • Cydlynu gwael rhwng y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a diffyg chyfathrebu rhwng teuluoedd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diffyg cefnogaeth ariannol a phecynnau cymorth sy'n cynnwys gofal yn y cartref
  • Anghenion emosiynol y bobl sy'n gofalu am anwyliaid yn y cartref a'r diffyg cefnogaeth ar gyfer perthnasau sydd wedi cael profedigaeth.
  • Yr iaith a ddefnyddir wrth drafod gofal cyn marwolaeth

Meddai Dr Annmarie Nelson, Cyfarwyddwr Gwyddonol, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, a arweiniodd yr ymchwil: "Mae'r canfyddiadau hyn yn cadarnhau canlyniadau'r adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan elusen Marie Curie. Dangosodd yr adroddiad hwn nad yw dros 110,000 o bobl sy'n dioddef o salwch angheuol yn y DU yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt bob blwyddyn...”

"Yn ôl saith o bob deg gofalwr, nid yw pobl sydd â salwch angheuol yn cael yr holl ofal a chymorth sydd ei angen arnynt, a dim ond 15% o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n credu bod y gwasanaethau brys yn diwallu anghenion gofal pobl â salwch angheuol."

Yr Athro Annmarie Nelson Athro Gofal Ategol a Lliniarol; Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie

Mae adroddiadau diweddar yn cadarnhau nad oes digon o adnoddau ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a bod dim digon o ymchwil wedi'i chynnal yn y maes. Mae'r arian sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer ymchwilio i ddiwedd oes yn hawlio llai na 0.16% o'r cyfanswm sy'n cael ei wario ar ymchwil iechyd yn y DU.

Cynhaliwyd yr arolwg yn 2014 gan y Priority Setting Partnership (PeolcPSP), sy'n ymwneud â gofal lliniarol a diwedd oes, gydag Ymddiriedolaeth James Lind (JLA).

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.