Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

28 Hydref 2016

Audience receiving presentation

Caiff ymchwil gwyddorau cymdeithasol arloesol Prifysgol Caerdydd ei dathlu mewn gŵyl dros wythnos ym mis Tachwedd.

Nod Gŵyl gyntaf Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd yw codi ymwybyddiaeth o ymchwil gwyddorau cymdeithasol ragorol Caerdydd - ymchwil sy’n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesi, ac yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Rhwng 5-12 Tachwedd 2016, cynhelir y digwyddiadau canlynol yn ystod yr wythnos: Cyflwynir Mam-gu, Mam a Fi: bwydo ein babanod sef arddangosfa ymarferol, gydag arteffactau a delweddau hanesyddol sy’n ymwneud â hanes a chymdeithaseg bwydo babanod; Perthyn: Hapusrwydd yn y ddinas sy’n gwahodd ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ynghyd ag aelodau eraill o’r cyhoedd, i fyfyrio am ystyr perthyn; a Gwylio chi, gwylio fi: goruchwyliaeth teledu cylch cyfyng mewn democratiaeth sy’n trafod goblygiadau goruchwyliaeth gan y wladwriaeth a goruchwyliaeth breifat i gymdeithasau democrataidd.

Bydd ymchwilwyr hefyd yn rhannu eu gwaith ar faterion fel comas ac ymwybyddiaeth, emosiynau yn Hollywood a gwyddoniaeth, anableddau yn y gwaith a system newidiol iechyd meddwl.

Dywedodd yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’n wych cynnal Gŵyl gyntaf Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd fis Tachwedd a brolio cryfder ac ehangder ymchwil gwyddorau cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Caerdydd...”

“Mae ein hymchwilwyr yn cyflawni gwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol pwysig a blaengar. Rydym hefyd yn gyffrous am y dyfodol a gweld sut y gall ymchwil gwyddorau cymdeithasol fynd i’r afael â heriau yn y byd go iawn."

Yr Athro Gillian Bristow Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd

“At y diben hwn, rydym yn cyflawni menter uchelgeisiol newydd i adeiladu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd (SPARK).  Yn ystod yr ŵyl, rydym yn cynnal digwyddiad y gall pobl ddod iddo i ddysgu mwy am sut y bydd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol yn meithrin ffordd newydd o gynnal gwaith ymchwil a fydd yn cynnig atebion arloesol ac effeithiol i broblemau cymdeithasol byd-eang o bwys.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl yma. Mae’r digwyddiadau am ddim, ac yn cael eu cynnal yn y Brifysgol ac mewn lleoliadau ledled canol y ddinas.

Cefnogir yr ŵyl gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r ŵyl genedlaethol yn gyfle i unrhyw un gwrdd â rhai o wyddonwyr cymdeithasol amlycaf y wlad a thrafod a dysgu am y rôl sydd gan ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym mywyd pob dydd.