Gobaith newydd i gadwraeth forol fyd-eang

28 Hydref 2016

Seagrass

Cyflwynwyd cynigion llwyddiannus i warchod morwellt – pwerdy'r môr – mewn digwyddiad byd-eang er mwyn grymuso pobl i ymgysylltu mwy â chadwraeth forol.

Yn 12fed Weithdy Bioleg Morwellt Rhyngwladol, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Project Seagrass – elusen a ddechreuwyd gan ymchwilwyr y ddwy brifysgol - daeth 170 o wyddonwyr morol o bedwar ban y byd at ei gilydd i rannu straeon am eu llwyddiannau ym maes cadwraeth morwellt.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai ynglŷn ag adfer dolydd morwellt, gan gynnwys enghreifftiau o ddulliau gwell a mwy dibynadwy o wella ein hamgylchedd morol. Roedd penderfyniadau ynglŷn â sut i sicrhau bod dolydd morwellt yn fwy gwydn yn wyneb newidiadau i'r amgylchedd hefyd yn dangos sut mae camau gweithredu i wella ansawdd dŵr arfordirol wedi arwain at welliannau i forwellt cynhyrchiol.

Dywedodd Benjamin Jones, cyfarwyddwr sefydlol Project Seagrass a Chynorthwyydd Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd: "Mae modd dadlau mai sefyllfa ein cefnforoedd ledled y byd yw'r her fwyaf y bydd dynol ryw yn ei hwynebu dros y ganrif nesaf. Er bod deall y mater yn bwysig, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn deall sut mae datrysiadau cadwraeth yn cael eu datblygu ledled y byd...”

"Mae angen straeon o obaith yn ogystal â straeon am yr holl broblemau, er mwyn ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr ac ymarferwyr cadwraeth. Mae'r angen am straeon o obaith am ddolydd morwellt yn fwy nag unrhyw gynefin arall – maent yn gynefin hynod bwysig a geir ledled y byd."

Fel rhan o'r digwyddiad, tynnwyd sylw at waith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys gwaith i ddeall y rôl sydd gan ddolydd morwellt yn Lagŵn Pattalam, Sri Lanka; ymchwil a ddangosodd cysylltiad rhwng morwellt, diogelwch bwyd, a gwerth economaidd yn Wakatobi, Indonesia; ac ymchwiliad i sut mae dolydd morwellt yn cefnogi bioamrywiaeth yng Ynysfor Myeik.

Dywedodd Dr Richard Unsworth, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ond sy'n gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd: "Tynnodd cyfranogwyr y gweithdy sylw at yr amryw resymau i fod yn optimistaidd, gan rannu straeon am gamau gweithredu go iawn a gymerwyd i wella ein cefnforoedd. Roedd y straeon yn cynnwys unigolyn yn ailblannu morwellt yng Ngorllewin Awstralia, a mesurau a gymerwyd gan yr UE i ddefnyddio dolydd morwellt i warchod yr amgylchedd morol."

Cyn y gweithdy, rhyddhawyd datganiad gan drefnwyr y digwyddiad, ynghyd â Chymdeithas Morwellt y Byd, i ddweud bod angen gweithredu i achub morwellt y byd.

Cafodd y datganiad ei arwyddo gan fwy na 160 o wyddonwyr, ac mae'r datganiad yn rhybuddio bod colli morwellt yn peryglu bywydau cannoedd ar filoedd o bobl, ac yn cynyddu lefelau tlodi i lawer o bobl. Gan fod bywoliaeth llawer o bobl ledled y byd sy'n byw ar yr arfordir yn dibynnu'n fawr ar ddolydd morwellt, mae'r ffaith eu bod ar eu ffordd i ddifodiant yn fater difrifol.

"Byddai colli morwellt o ganlyniad i effeithiau dynol megis ansawdd dŵr gwael, datblygiadau arfordirol, a dulliau dinistriol o bysgota, yn arwain at golli'r rhan fwyaf o'r poblogaethau o bysgod ac infertebratau y mae'r morwellt yn eu cynnal," dywedodd Benjamin.

Mae'r datganiad hefyd yn rhoi gobaith, drwy ganolbwyntio ar enghreifftiau o warchod ac adfer dolydd morwellt.  Mae'n amlinellu sut mae peithiau morwellt yn y cefnforoedd yn "fannau pysgota allweddol" ac "un o'r storfeydd carbon mwyaf effeithiol ar y ddaear", sy'n golygu eu bod yn chwarae rhan hanfodol o ran atal yr allyriadau carbon deuocsid gan ddynol ryw sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael cipolwg unigryw i farn a safbwyntiau gan ymchwilwyr a chymdeithion Mannau Cynaliadwy yn y maes creu lleoedd cynaliadwy.