Ewch i’r prif gynnwys

Crefydd a'r newyddion

28 Hydref 2016

Prayer against sunset

Mewn cyfnod lle mae crefydd yn cipio'r penawdau'n ddyddiol, fu hi erioed yn bwysicach cael gwybodaeth a dealltwriaeth o ffydd a'i lle yn ein byd.

Nawr, mae Dr Michael Munnik, o'r Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd, yn helpu i osod y pwnc hwn yn gadarn ar yr agenda drwy gyfrannu at ddigwyddiad hyfforddi cyntaf Cymru i newyddiadurwyr ar grefydd.

Gweithdy undydd gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yw When Religion Makes the News fydd yn canolbwyntio ar ba mor bwysig yw hi i newyddiadurwyr ddeall a dehongli sut mae crefydd yn ysgogi'r byd heddiw.

Mae wedi'i gynllunio i ehangu llythrennedd crefyddol - sut mae crefydd yn siapio bywydau, gwleidyddiaeth a gwrthdaro - drwy gynnig arbenigedd, adnoddau a lle i drafod agweddau.

Fel rhan o'r digwyddiad, bydd Dr Munnik - sy'n gyn newyddiadurwr radio - yn rhannu astudiaeth achos o'i ymchwil ac yn arwain fforwm i ganiatáu i gyfranogwyr rannu profiadau a dilemâu.

Dywedodd Dr Munnik: "Bymtheng mlynedd yn ol, roedd yn hawdd i newyddiadurwyr a golygyddion anwybyddu crefydd. Roedd crefydd yn cael ei ystyried yn llwydaidd, yn hen-ffasiwn - ac yn waethaf oll i newyddiadurwyr o bosib - yn anwir. Newidiodd popeth pan chwalodd yr awyrennau a herwgipiwyd ddau dŵr Canolfan Fasnach y Byd yn 2001...”

“Mae crefydd yn bwysig, ac mae crefydd gwneud copi da. Yn ein byd rhyng-gysylltiedig, ni fu'r cyfrifoldeb i ddeall, gosod cyd-destun a chyflwyno'r newyddion gyda dealltwriaeth o grefydd erioed yn bwysicach.”

Dr Michael Munnik Senior Lecturer in Social Science Theories and Methods, Director of Learning and Teaching

"Yn y gweithdy byddwn yn edrych ar gywirdeb gwleidyddol, y bwlch rhwng yr hyn mae pobl yn ei gredu a'r hyn maen nhw'n ei wneud, boed yn gaeth eu cred neu'n rhyddfrydol, ac yn enwedig yr hyn sy'n cyfrif fel awdurdod, neu pwy sy'n cyfrif fel arbenigwr neu lefarydd.

“Mae'r berthynas rhwng newyddiadurwyr a'u ffynonellau, i fi, yn hollbwysig ar gyfer gwella'r ffordd yr adroddir y newyddion.  Gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn dod â rhai o'r bobl hyn at ei gilydd yn yr un ystafell er mwyn iddynt allu cyfarfod a dod i ddeall ei gilydd ychydig yn well."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.