Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn trawma i achub 'bywydau di-rif'

27 Hydref 2016

Trauma Pack

Bydd pecyn trawma sy'n achub bywydau i drin dioddefwyr gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd mewn gwledydd sy'n datblygu yn arbed "bywydau di-rif" ar ôl i gyllid gael ei sicrhau ar gyfer treial mawr.

Datblygwyd y pecynnau trawma yng Nghymru gan yr Athro Judith Hall o Brifysgol Caerdydd gyda chydweithwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Byddant yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â chyfraddau marwolaeth uchel iawn ar ffyrdd Namibia.

Mae Cynllun Datblygu Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy'n cefnogi ymyriadau sy'n mynd i'r afael â materion iechyd cyhoeddus pwysig byd-eang neu yn y DU, yn darparu cyllid o £150,000 ar gyfer y treial.

Bydd arbenigwyr nad ydynt yn rhai meddygol megis yr heddlu, gyrwyr, uwch bentrefwyr a phenaethiaid yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio pecynnau cost isel yn ystod yr 'awr euraid' gyntaf pan gaiff bywydau eu hachub ar ôl trawma.

Crëwyd y pecynnau, sy'n cynnwys offer achub bywyd gyda chyfarwyddiadau syml, ar y cyd â chlinigwyr o Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a BCB International, partner o fyd diwydiant.

Dewiswyd Namibia oherwydd bod yr Athro Hall eisoes yn arwain prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus yn y wlad mewn cydweithrediad â Phrifysgol Namibia.

Mae Prosiect Phoenix yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill. Mae Phoenix yn cefnogi prosiect Cymru o blaid Affrica Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Athro Hall: "Rwy'n falch iawn fod prosiect Phoenix yn gallu helpu i gyflwyno pecynnau trawma yn Namibia, gwlad sydd ag un o'r problemau damweiniau traffig ffyrdd gwaethaf yn y byd..."

"Mae’r pecynnau’n darparu offer greddfol achub bywyd a chyfarwyddiadau hawdd eu deall, ac rwy’n disgwyl iddynt achub bywydau di-rif."

Yr Athro Judith Hall Professor of Anaesthetics, Intensive Care and Pain Medicine. Phoenix Project Lead

Ychwanegodd yr Athro Hall ei bod yn falch iawn hefyd fod ail brifysgol yn Namibia, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Namibia, hefyd yn ymwneud â’r prosiect drwy ei hysgol barafeddygol.

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Ni fyddai hyn wedi digwydd heb waith prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, sy'n cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl yn Namibia ym meysydd addysg, iechyd, cyfathrebu a gwyddoniaeth..."

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymyriad arloesol diweddaraf hwn, sy’n cynnwys llawer o gydweithwyr yng Nghymru a Namibia, yn cael ei ehangu yn y pen draw ar draws Namibia ac i wledydd sy'n datblygu mewn mannau eraill yn y byd."

Yr Athro Hywel Thomas Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Mae pecynnau trawma wedi cael eu profi yn y maes yn Zambia drwy elusen Mamau Affrica yr Athro Hall, gyda chymorth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac ymatebwyr cyntaf yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn a’r Groes Goch Ryngwladol wedi helpu hefyd gyda’r gwaith profi a datblygu.