Ewch i’r prif gynnwys

Dod â dysg o Rwsia i Gymru

21 Hydref 2016

Russian Building

Mae haneswyr ac ieithyddion blaenllaw o Rwsia’n dod i Gymru a Phrifysgol ar eu trip cyfnewid cyntaf, sy’n rhan o gynllun Symudedd Credyd Rhyngwladol a Mwy Eramus fis yma.

Yn y daith gyfnewid rhwng y ddwy brifddinas, bydd academyddion o Brifysgol Academaidd Wladol y Dyniaethau yn cyflwyno cyfres o chwe sesiwn diwtora a darlith o hanes yr henfyd a’r canol oesoedd i’r cyfnod modern, gan fwrw golwg newydd ar themâu yn hanes Prydain, Ewrop a Rwsia.

Bydd y daith gyfnewid gyntaf o’i bath rhwng Cymru a Rwsia’n dod ag arbenigwyr ynghyd i addysgu myfyrwyr yn y ddwy wlad ar bedwar ymweliad wythnos o hyd yn 2016-2017. Bydd yr academyddion yn cyfnewid prifddinasoedd yn 2017, pan fydd arbenigwyr ar chwyldroadau 1917 yn cyflwyno darlithoedd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o raglen ddigwyddiadau yn y brifddinas, i nodi canmlwyddiant y Chwyldro Rwsiaidd. Bydd haneswyr o Gaerdydd yn mynd ar eu hymweliad terfynol cyn mis Mehefin 2017.

Meddai trefnydd y daith gyfnewid, y Darlithydd ar Hanes Ewropeaidd Modern Dr James Ryan, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Ar ôl cael croeso cystal ym Mosgo eleni, mae’n bleser croesawu’r ysgolheigion blaenllaw hyn yn ystod Wythnos #RydymNinRhyngwladol y Byd, pan fydd prifysgolion o bob rhan o’r DU yn dathlu eu cysylltiadau rhyngwladol...”

“Mae ein myfyrwyr yn edrych ymlaen at glywed safbwyntiau gwahanol ar ystod eang o faterion hanesyddol. Mae’n arbennig o briodol y bydd y cytundeb cyfnewid hwn yn cyd-daro â’r paratoadau i nodi canmlwyddiant chwyldroadau Rwsia ym 1917, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio yng Nghaerdydd dros y misoedd nesaf i nodi hyn.”

Dr James Ryan Senior Lecturer in Modern European (Russian) History (Study Leave 2022/3)

Ymhlith yr ysgolheigion sy’n ymweld mae’r Athro Sergei Karpyuk (Uwch Ymchwilydd yn Sefydliad Hanes y Byd), Dr Anna Anisimova (Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr Adran Astudiaethau Canoloesol a Hanes Modern Cynnar), Dr Denis Fomin-Nilov (Darllenydd mewn Hanesydd a Rheithor Gweithredol GAUGN), Dr Anastasia Maier (Darllenydd mewn Hanes ac Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Hanes y Byd), Dr Natalia Gladysheva (Athro Cyswllt yn y Saesneg) a Dr Evgeniiya Prusskaia (Darlithydd a Chymrawd Ymchwil).

Fel rhan o’r daith gyfnewid, thema darlith arbennig gan yr Athro Cyswllt Saesneg Dr Natalia Gladysheva fydd ‘Y traddodiad Rwsiaidd a Sofietaidd academaidd mewn addysgu ieithoedd tramor yn y brifysgol’. Bydd arbenigwyr sy’n ymweld hefyd yn siarad fel rhan o gyfres seminarau reolaidd y Brifysgol, gan ddod ag ysgolorion blaenllaw i Gymru i rannu’r ymchwil ddiweddaraf.

Gan deithio tirnodau amlwg y ddinas yn ystod yr ymweliad, bydd y garfan o Fosgo’n cael eu croesawu’n ffurfiol i brifddinas Cymru mewn derbyniad ym Mhrif Adeilad hanesyddol y Brifysgol ar ddechrau eu harhosiad ar 24 Hydref.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.