Ewch i’r prif gynnwys

Digon Hen i Fod Mewn Amgueddfa

20 Hydref 2016

Festival Crowd

Mae Gŵyl Gerddoriaeth Sŵn Caerdydd yn 10 oed eleni, ac mae'r ŵyl yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnal gwaith ymchwil ynglŷn â'r profiad o fynd i wyliau cerddorol.

Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd y tîm ymchwil yn agor Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn Arcêd y Castell yng nghanol y ddinas dros gyfnod yr ŵyl (21-23 Hydref).

Mae Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn gwahodd pobl leol sy'n hoff o gerddoriaeth fyw neu sy’n berchen ar leoliadau, ynghyd ag arbenigwyr cerddoriaeth a phobl adnabyddus, i rannu eu hanesion eu hunain ac i edrych yn ôl dros y 10 mlynedd ers i'r ŵyl gael ei sefydlu, a'r newidiadau a datblygiadau yn y ddinas sydd wedi effeithio ar yr ŵyl.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r Brifysgol weithio gyda chymuned yr ŵyl ac i siarad am atgofion cerddorol wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o Sŵn."

Dywedodd Dr Johann Gregory, cydlynydd Rhwydwaith Ymchwil Caerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Wrth i’r ŵyl dyfu a thyfu bydd y prosiect ymchwil, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Amgueddfa, yn cynnig cipolwg newydd ar ecoleg gwyliau a’u gwerth diwylliannol.”

Ychwanegodd Dr Jacqui Mulville, arweinydd y Grŵp Ymchwil Gwyliau yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a phrif guradur Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn: “Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’n bywydau.  Mae ein perthynas â cherddoriaeth i’w gweld yn amlwg yn ein cartrefi ar ffurf memorabilia - LPs, posteri, crysau-t, tocynnau, dillad a mwy. Rydyn ni’n cadw eitemau i’n hatgoffa o ddiwrnodau a nosweithiau i’w cofio, digwyddiadau pwysig neu adegau a newidiodd ein bywydau...”

“Drwy ofyn i bobl rannu gwrthrychau yn ein hamgueddfa, rydyn ni am edrych ar ba mor ganolog y mae cerddoriaeth i’n bywydau, ac fel archeolegydd mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sut mae gwrthrychau’n cynrychioli’r gorffennol agos, yn ogystal â’r pell.”

Yr Athro Jacqui Mulville Professor in Bioarchaeology, Head of Archaeology and Conservation

“Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn o newyddion cerddorol mawr hefyd, gyda dathliadau fel 10 mlynedd o Sŵn a 40 mlynedd o gerddoriaeth pync, marwolaethau trist sêr o’r byd cerddoriaeth, gan gynnwys Bowie a Prince, a chau lleoliadau cerddorol fel Fabric yn Llundain. Mae hwn yn amser da i ni ystyried faint mae cerddoriaeth yn ei olygu i ni.”

Dywedodd John Rostron, cyd-sylfaenydd Gŵyl Sŵn: “Nod yr amgueddfa yw rhoi’r cyfle i chi rannu’r pethau sy’n eich atgoffa o wyliau cerddoriaeth - boed yn hen fonion tocynnau neu’n hen grysau-t, neu ffyn drymio a daflwyd i’r dorf. Gallant fod yn straeon, neu fideos neu ffotograffau. Byddwn yn arddangos popeth yn ein hamgueddfa...”

“Rwy’n hoffi’r cysylltiad rhwng yr amgueddfa ac archaeoleg a sut mae archeolegwyr yn gweithio: maen nhw’n dod o hyd i bethau ac yn ceisio llunio stori yn seiliedig ar y gwrthrychau hynny. Mae cerddoriaeth a’r straeon y tu cefn i gerddoriaeth yn debyg i hyn: rydych chi’n cadw bonyn tocyn sydd â stori wych i’w hadrodd.”

John Rostron Cyd-sylfaenydd Gŵyl Sŵn

“Mae gan lawer o bobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth focsys a droriau yn llawn manion bethau, ac mae hwn yn gyfle i arddangos rhai ohonyn nhw; neu gymryd llun a’i anfon i ni, a rhannu’r straeon gwych hynny sydd gennych chi.”

Mae Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn cael ei chreu drwy wahodd torf o bobl i ddod â’u deunyddiau ynghyd, ac mae’r trefnwyr yn gwahodd y rheiny sy’n deall eu cerddoriaeth i ddod â thair eitem gyda nhw i’w harddangos yn ystod penwythnos Sŵn.

Gallwch wneud cyfraniadau fideo drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu fynd â gwrthrychau gyda chi i’r amgueddfa neu recordio eich stori yno yn y fan a’r lle.

Bydd myfyrwyr o adran Archaeoleg a Chadwraeth y Brifysgol wrth law i roi cyngor ar sut i ofalu am femorabilia cerddoriaeth. Caiff yr holl ddarluniau a straeon eu casglu a’u harddangos yn rhith-oriel Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn.

Bydd yr amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ddydd Gwener 21ain Hydref (12-5pm), dydd Sadwrn 22ain (12-5pm) a dydd Sul 23ain (12-5pm), ac mae am ddim i bawb.

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â'n rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas.