Ewch i’r prif gynnwys

Dim consensws cyhoeddus ynghylch 'Brexit'

20 Hydref 2016

EU and UK flags on beach

Mae data o bôl opiniwn newydd a gyhoeddwyd gan uned ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn awgrymu nad oes tystiolaeth o unrhyw gonsensws ymhlith pobl Cymru yn ôl pob golwg ynglŷn â'r hyn y dylid ei gyflawni gan y trafodaethau 'Brexit' yn dilyn y refferendwm ym mis Mehefin.

Mae'r data’n dangos bod mwyafrif y rhai a bleidleisiodd i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) am weld cytundeb 'Brexit caled' tra bod llawer o'r rhai a bleidleisiodd i aros yn yr UE, ar y llaw arall, am wrthdroi penderfyniad y refferendwm ac aros yn yr undeb. Golyga Brexit Caled, yn yr achos gorau, mai cytundeb masnach cyfyngedig fyddai gan y DU gyda gweddill yr UE.

Mae canlyniad y pôl opiniwn newydd wedi'i gyhoeddi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, fel rhan o'i gwaith sy'n edrych ar effaith 'Brexit' ar Gymru.

Pan ofynnwyd sut byddai ymadael â'r UE yn effeithio ar Gymru, mae'r rheini a bleidleisiodd i aros yn credu’n gryf y bydd Cymru yn dioddef mwy na gweddill y DU, tra bod y rhan fwyaf o'r rhai a bleidleisiodd i ymadael yn meddwl na fydd Cymru mewn sefyllfa waeth na gweddill y DU.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru, beth bynnag fu eu pleidlais yn y refferendwm, yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru na Lywodraeth y DU wrth gynnal trafodaethau "Brexit".

Dengys y data:

  • Nid oes consensws clir ynghylch pa fath o gytundeb y dylai’r DU ei gael gyda'r UE. Cytundeb masnach cyfyngedig yn unig gyda’r UE (32%) yw'r dewis mwyaf poblogaidd; gwrthdroi canlyniad y refferendwm sy'n dod yn ail (23%); mynediad llawn at y farchnad sengl a rhyddid symudiad (16%) yw'r trydydd dewis mwyaf poblogaidd; a wedyn dim cytundeb o gwbl (15%).
  • Mae’r mwyafrif cymharol o bobl yn credu y bydd Cymru yn dioddef mwy ac yn elwa llai na gweddill y DU (37%) o ganlyniad i Brexit, tra bod 34% o bobl yn credu y bydd Cymru yn elwa neu'n dioddef tua chymaint â gweddill y DU. Dim ond 8% o bobl sy’n credu y bydd Cymru ar ei hennill yn fwy na mannau eraill yn y DU o ganlyniad i ymadael â'r UE.
  • Nid yw llawer o bobl yng Nghymru yn meddwl y bydd ymadael â'r UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'w hamgylchiadau personol (37%), tra bod 32% yn credu y byddant yn waeth. Dim ond 14% o bobl sy’n credu y byddant yn well eu byd o ganlyniad i ymadael â'r undeb.
  • Nid yw mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru (57%) na Llywodraeth y DU (62%) i ymdrin â’r mater o ymadael â'r UE. Dim ond 30% o bobl sydd â ffydd yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU i drafod y mater.

Dyma farn yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ynghylch y canfyddiadau newydd:"Mae'r data o'r pôl opiniwn hwn yn awgrymu'n gryf nad oes unrhyw gytundeb ymhlith y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r hyn y maent am ei weld o broses Brexit.

“Nid yw hyn o unrhyw syndod o gwbl o ystyried y diffyg manylion a gafwyd am sut caiff y broses ei chynnal a beth fydd yn cael ei hawlio. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gwahaniaethau sylweddol o hyd rhwng y rhai a bleidleisiodd i aros a'r rhai oedd am ymadael...”

“Mae’r ddwy ochr yn ymddangos mor bell oddi wrth ei gilydd ag erioed – dyma rywbeth fydd yn gwneud y dasg o gael unrhyw gonsensws ynglŷn â beth ddylai ddigwydd gymaint yn anoddach.”

Ychwanegodd Dr Jo Hunt, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Unwaith y sbardunir proses Erthygl 50, erbyn diwedd mis Mawrth 2017 yn ôl pob tebyg, bydd y cloc yn dechrau tician i Lywodraeth y DU a'r UE o ran dod i gytundeb ar delerau’r DU i ymadael â'r UE.

"Beth bynnag fydd yn digwydd, mae'r gwahaniaeth barn rhwng y rhai a bleidleisiodd i ymadael a'r rheini oedd am aros, yn dangos y bydd dod o hyd i ateb sy'n dderbyniol i'r DU gyfan yn dalcen caled."

*Cymerodd 1001 o oedolion yng Nghymru ran yn yr arolwg hwn ar ran Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd yr arolwg gan YouGov rhwng 18 a 21 Medi 2016.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.