Ewch i’r prif gynnwys

Hugh James yn cynnig lleoliadau y mae galw mawr amdanynt

17 Hydref 2016

Hugh James Solicitors with students

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau 18 lleoliad gwaith i fyfyrwyr y Gyfraith yn eu trydedd flwyddyn mewn ymdrech sylweddol i gynyddu cyflogadwyedd ei myfyrwyr.

Mae’r lleoliadau cyflogedig amser llawn wedi’u trefnu yn Hugh James, sy’n un o 100 cwmni cyfreithiol uchaf y DU, a byddant yn agored i fyfyrwyr drwy broses ymgeisio gystadleuol sy'n ceisio efelychu’r broses o recriwtio graddedigion.

Yn ystod eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarfer cyfreithiol fel paragyfreithwyr, a byddant yn gwneud gwaith ar lefel graddedigion.  Bydd y flwyddyn ar leoliad yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o ymarfer cyfreithiol, ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf eu hastudio mewn cyd-destun ymarferol.

Y gobaith yw y bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol.

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle ac mae’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau a mentrau, rhai’n unigryw i’r Ysgol, er mwyn gwella cyflogadwyedd. Hefyd mae’r Ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau, drwy amrywiaeth o gynlluniau pro-bono.

Caerdydd yw'r unig brifysgol Grŵp Russell sy’n cynnig yr holl hyfforddiant galwedigaethol israddedig a phroffesiynol sydd ei angen ar ddarpar gyfreithwyr a bargyfreithwyr cyn iddynt ymgymryd â chontract hyfforddi neu dymor prawf.

Wrth sôn am y bartneriaeth meddai Diane Brooks, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol gyda Hugh James:  "Rydym wedi datblygu perthynas ragorol ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd dros nifer o flynyddoedd ac mae nifer sylweddol o’n cyfreithwyr a'n partneriaid yn gyn-fyfyrwyr.

“Fel busnes sy’n tyfu ac sy'n cyflogi mwy na 600 o bobl yng Nghaerdydd, mae angen parhaus a chynyddol am y dalent gyfreithiol fwyaf disglair yn y farchnad. Bydd y cynllun yn ddefnyddiol iawn i ni o ran ein helpu i nodi'r graddedigion y dyfodol sydd â’r hyn sydd ei angen i lwyddo yn ein busnes. Bydd hefyd yn fuddiol iawn i’r myfyrwyr a fydd yn gallu dangos i gyflogwyr y dyfodol fod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o agweddau ymarferol gwaith cyfreithiol graddedig yn ogystal â’r ochr academaidd."

Meddai’r Athro Julie Price, Pennaeth Pro Bono a Chyflogadwyedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: "Dyma'r tro cyntaf inni gynnig rhaglen y Gyfraith gyda Lleoliad Proffesiynol. Mae cyfleoedd o'r fath yn dal i fod yn eithaf anarferol ym mhrifysgolion blaenllaw’r DU, yn enwedig gyda’r nifer hwn o fyfyrwyr yn mynd at yr un cwmni am flwyddyn. Mae gennym berthynas waith ers tro byd gyda Hugh James ac rydym yn croesawu’r rhaglen arloesol hon fel un ddeniadol i fyfyrwyr sydd eisiau cael profiad sylweddol o’r gyfraith ar waith er mwyn llywio eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol."

Ceir rhagor o wybodaeth am sut asesir y flwyddyn ar leoliad a sut telir amdani gan Dîm Derbyn y Gyfraith.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cymhwyso ein hymchwil i heriau pwysig i greu gwelliannau ar draws meysydd amrywiol.