Ewch i’r prif gynnwys

Campws Arloesedd wedi'i Gymeradwyo

14 Tachwedd 2016

Campws Arloesedd (Argraff y Penseiri)
Mae'r Brifysgol yn adeiladu Campws Arloesedd gwerth £300m.

Mae cynllunwyr y ddinas wedi cymeradwyo cam diweddaraf Campws Arloesedd £300m Prifysgol Caerdydd.

Bydd dau adeilad newydd yn dod ag ymchwilwyr, busnesau, cefnogwyr o'r sector cyhoeddus, a myfyrwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau sy'n sbarduno twf economaidd.

Byddant yn llunio prosesau sy'n creu dyfeisiadau technolegol, cwmnïau deillio, partneriaethau a chynhyrchion, a gwasanaethau newydd.

Mae cael caniatâd gan Gyngor Dinas Caerdydd yn paratoi'r ffordd am ddatblygiad sy'n dwyn buddiannau i bawb, gan gynnwys caffis, mannau creadigol a mannau agored i'r cyhoedd.

Y £135m prosiect a ariennir yn llawn ar dir llwyd y ddinas ym Mharc Maendy yw’r cam diweddaraf yng nghynlluniau Caerdydd i sicrhau bod arloesedd yn rhan o fywyd yn y Brifysgol.

Mae gweledigaeth y campws, a amlinellwyd ddwy flynedd yn ôl gan yr Is-ganghellor yr Athro Colin Riordan, yn sefydlu canolfannau rhagoriaeth sy’n rhoi budd i’r economi i greu cylch twf hunangynhaliol.

Dywedodd yr Athro Riordan: “Mae campws newydd yn ein helpu i greu cyfleoedd i bawb. Bydd ymchwil arloesol, trosglwyddo technoleg, datblygiadau busnes a menter myfyrwyr yn rhoi syniadau ar waith."

“Mae ein dyheadau i arloesi yn mynd y tu hwnt i adeiladau ffisegol. Rydym yn recriwtio academyddion ag enw da rhyngwladol a all greu timau rhagorol o ymchwilwyr ôl-ddoethurol. Rydym yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i sefydlu mentrau yn y dyfodol. Ac rydym yn dal ati i ddenu cyllid mawr o’r DU ac yn rhyngwladol, gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat, i wneud Caerdydd yn gartref i arloesedd.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Bydd y Campws yn cynnal ystod o gyfleusterau ar gyfer arloesi:

  • Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – yr unig ganolfan o'i math yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol i led-ddargludyddion cyfansawdd, wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru;

  • Sefydliad Catalysis Caerdydd, a fydd yn cynnwys cyfleuster catalysis o'r radd flaenaf i gynorthwyo ein hymchwil ym maes y gwyddorau cemegol;

  • SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, lle bydd academyddion yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddylunio a phrofi atebion i broblemau cymdeithas;

  • Y Ganolfan Arloesi - canolbwynt creadigol i egin fusnesau, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Feddygol, busnes arloesi clinigol newydd ym Mharc y Mynydd Bychan.
Dehongliad artist o'r tu mewn i'r Canolfan Arloesedd gyda phobl yn cerdded o gwmpas.
Tu mewn i'r adeilad Arloesedd Canolog.

Gydag awditoriwm, caffi a grisiau llifol, bydd ardaloedd cyhoeddus y Ganolfan yn cysylltu ymchwilwyr â’r gymuned leol, gan greu rhyngweithio cymdeithasol, man hamdden, ciniawa alfresco, a man arddangos a digwyddiadau.

Bydd lle i osod swyddfeydd a labordai i fentrau - o fusnesau newydd i gorfforaethau mawr - sydd am weithio’n uniongyrchol ag un o brif Brifysgolion ymchwil y DU.

Y Campws yw trydydd cam y gwaith datblygu ym Mharc Maendy, yn dilyn Adeilad Hadyn Ellis, a agorwyd yn 2013, a Chanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd, a agorwyd gan y Frenhines ym mis Mehefin.

Yn ogystal â dau adeilad newydd, sydd ag arwynebedd o 12,000 metr sgwâr yr un, bydd y trydydd cam yn cynnwys pont sy’n cysylltu Ysgol Busnes Caerdydd â’r Campws Arloesedd.

Y penseiri Hawkins\Brown a HOK oedd yn gweithio ar y prosiect, ynghyd ag uwchgynllunwyr y safle BDP a’r cwmni ymgynghorol cynllunio trefol DPP.

"Mae Arloesedd Canolog yn brosiect hynod gyffrous. Rydym wedi gweithio'n agos â'r brifysgol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer defnyddio gofod, ac integreiddio partneriaid a chydweithwyr diwydiannol mewn cyd-destun Addysg Uwch."

Oliver Milton Partner yn Hawkins/Brown

Dywedodd Oliver Milton, partner yn Hawkins\Brown: "Mae hyn yn golygu bod gennym ddyluniad clir iawn, gyda mannau gweithio rhyngweithiol o gwmpas 'ocwlws' canolog sy'n cysylltu'r chwe llawr. Mae'r cyfleusterau a rennir yn cynnwys awditoriwm TEDx a labordy ffabrigo i roi cynnig ar dechnolegau newydd ar gyfer cynhyrchu."

Campws Arloesedd - Grisiau
Grisiau tu mewn sbarc | spark

Dywedodd Adrian Gainer, Arweinydd Rhanbarthol Grŵp Gwyddoniaeth a Thechnoleg HOK: "Rydym yn edrych ymlaen at greu cyfleusterau arloesol a fydd yn atgyfnerthu enw da rhyngwladol y brifysgol fel canolfan ymchwil catalysis flaenllaw, ac yn adeiladu ar ei chryfderau wrth ddatblygu deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludo.

“Dyluniwyd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd i alluogi ymchwil amlddisgyblaethol i ffynnu, gyda mannau ysbrydoledig sy’n denu ac yn cadw’r unigolion mwyaf dawnus.”

Meddai Martin Jones, BDP: “Mae’r Campws yn cyflawni nifer o ddyheadau i Brifysgol Caerdydd, a’r nod yw hwyluso ymchwil wyddonol o’r radd flaenaf, cyfuniadau rhwng disgyblaethau a chynyddu nifer y cyfleoedd i fyfyrwyr mewn amgylchedd sy’n well i fusnesau.”

Ychwanegodd Gareth Hooper, DPP: “Gwnaethom weithio’n agos iawn â’r Brifysgol a Chyngor Caerdydd i sicrhau bod modd cwblhau’r cynllun cyffrous hwn, gan gael caniatâd cynllunio amlinellol yn 2010. O ganlyniad, mae project adfywio cyffrous yn mynd rhagddo sy’n gwneud newid ffisegol i’r ddinas drwy wyddoniaeth o’r radd flaenaf.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn gobeithio dechrau gwaith ar y safle ar ddechrau 2017.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.