Ewch i’r prif gynnwys

Pwy sy'n pledio achos Lloegr?

6 Hydref 2016

Conservative Party Conference

Mae cynrychiolwyr yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol wedi clywed y gallai golli ei statws fel y blaid sydd yn y sefyllfa orau i amddiffyn Seisnigrwydd ym marn y pleidleiswyr.

Daw'r honiad gan ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd a Chaeredin mewn ymateb i ddata sy'n dangos bod llai o bobl o'r farn mai'r Ceidwadwyr yw'r blaid sydd yn y sefyllfa orau i bleidio achos Lloegr.

Cafodd y canfyddiadau, a gymerwyd o arolwg diweddaraf Dyfodol Lloegr, eu cyflwyno mewn cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Geidwadol yn Birmingham ar 4 Hydref.

Er gwaethaf y diffyg ffydd, mae polisïau'r Blaid Geidwadol ynghylch llywodraethu Lloegr yn parhau i fod yn boblogaidd ymhlith yr etholwyr, ac mae 'Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr' bob amser yn neges boblogaidd.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn cyd-fynd â chanfyddiadau arolygon blaenorol, ac yn dangos bod chwerwedd o hyd ynglŷn â'r buddiannau canfyddedig y mae gwledydd eraill y DU – yn enwedig yr Alban – yn eu cael drwy fod yn rhan o'r Undeb.

Daeth i'r amlwg yn yr arolwg hefyd fod cysylltiad agos rhwng agweddau tuag at aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd ac agweddau at rôl Lloegr yn y DU. Roedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn ystyried eu hunain fel "Saeson yn hytrach na Phrydeinwyr" yn bwriadu pleidleisio dros ymadael â'r UE, tra bod y rhai oedd yn ystyried eu hunain fel Prydeinwyr yn bennaf neu'n gyfan gwbl, yn fwy tebygol o bleidleisio dros aros.

Yng nghyd-destun y gwahaniaethau newydd rhwng cenhedloedd y DU a ddaeth i'r amlwg yn refferendwm yr UE, mae'r arolwg hwn yn cyflwyno tystiolaeth newydd am yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog y DU wrth i'r DU baratoi i gynnal trafodaethau ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Ailsa Henderson, Prifysgol Caeredin, un o arweinwyr y prosiect:

"Er bod y dystiolaeth o arolwg Dyfodol Lloegr yn dangos bod polisïau'r Ceidwadwyr ynghylch llywodraethu Lloegr yn boblogaidd o hyd, mae hefyd yn awgrymu bod llai o bleidleiswyr yn eu hystyried fel y blaid sydd yn y sefyllfa orau i bleidio achos Lloegr.

"A hithau'n blaid sydd mewn grym, mae'n wynebu cryn her: nid yw mwyafrif sylweddol yn credu bod San Steffan yn gweithio er lles Lloegr yn y tymor hir."

Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd: Bydd rhaid i Theresa May ddangos ei bod yn gallu ymateb i bryderon pleidleiswyr yn Lloegr, a chadw'r DU ar yr un pryd, ar ddechrau cyfnod o newid digynsail."

Cynhaliwyd Arolwg Dyfodol Lloegr 2016 rhwng 10 a 21 Mehefin 2016, ac roedd 5,103 yn y sampl.  Mae'r prosiect wedi'i arwain gan yr Athro Roger Scully a'r Athro Richard Wyn Jones (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Alisa Henderson a'r Athro Charlie Jeffery (Prifysgol Caeredin).

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.