Ewch i’r prif gynnwys

Manteisio ar gyfieithu

6 Hydref 2016

Translation

Mae'r Brifysgol wedi creu cwrs ar-lein rhad ac am ddim i ateb y galw cynyddol am sgiliau cyfieithu, wrth i'n byd ddod yn fwy amlddiwylliannol a chysylltiedig.

Mae Working with Translation: Theory and Practice yn defnyddio gwaith ymchwil a chyfraniadau gan ein harbenigwyr, er mwyn helpu chi i gyfathrebu'n well.

Un o addysgwyr y cwrs yw'r Athro Astudiaethau Cyfieithu, Loredana Polezzi, o'r Ysgol Ieithoedd Modern. Meddai: "Anaml iawn yr ydym yn myfyrio ar sut mae cyfieithu'n gweithio, neu am beth yw hanfod cyfieithu ar lafar neu ar bapur, neu weithio gyda chyfieithwyr proffesiynol neu achlysurol.

"Os edrychwch chi'n ddigon agos, fe welwch chi gyfieithu ym mhob man, ac mae'n bosibl bod yna gyfieithydd wedi'i guddio oddi mewn i bob un ohonoch chi.

"P'un a ydych yn gweithio gyda chyfieithwyr neu gyfieithwyr ar y pryd yn eich swydd, yn gorfod cyfieithu neu esbonio brawddegau nawr ac yn y man, yn ystyried cyfieithu fel llwybr datblygiad proffesiynol posibl, neu hyd yn oed yn hoff o feddwl am sut mae'r ieithoedd a'r diwylliannau o'ch cwmpas yn rhyngweithio, byddwch yn elwa ar y cwrs hwn."

Mae modd cofrestru nawr ar gyfer y cwrs pedair wythnos, a fydd yn dechrau ar 24 Hydref, a gall pobl gofrestru unrhyw bryd.

Does dim gofynion arbennig, ond byddai bod â diddordeb mewn ieithoedd a chyfieithu'n fuddiol.

Watch the video

Yn ystod yr wythnos y bydd y cwrs yn dechrau ynddi, mae prifysgolion ledled y DU yn cael eu hannog i ddathlu'r gwaith rhyngwladol a wnânt fel rhan o ymgyrch #WeAreInternational.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn amlygu llwyddiannau rhai o'i gweithgareddau rhyngwladol fel rhan o'r ymgyrch, sydd wedi'i chefnogi gan dros 100 o brifysgolion.

Lansiwyd #WeAreInternational yn 2013 er mwyn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn parhau i fod yn gymunedau amrywiol a chynhwysol sy'n agored i fyfyrwyr a staff o bedwar ban y byd.

Cynhelir y cwrs cyfieithu ar FutureLearn, sy'n rhan o'r Brifysgol Agored, ac mae'r Brifysgol eisoes wedi cynnal cyrsiau yn y gorffennol am newyddiaduraeth gymunedol, tystiolaeth iechyd, a Mwslimiaid ym Mhrydain.

Mae'r cwrs Making Sense of Health Evidence: The informed consumeryn cael ei gynnal eto ar hyn o bryd – dechreuodd y cwrs ar 26 Medi. Cynhelir y cwrs am bedair wythnos, a gall unrhyw un sydd am fod yn rhan o'r cwrs ymuno ar unrhyw adeg.

Mae'r cyrsiau yn annog rhyngweithio cymdeithasol fel bod pobl yn dysgu drwy gymryd rhan mewn sgyrsiau am y deunydd dysgu.

Rhannu’r stori hon