Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu Gwobr Arian i Ysgol y Biowyddorau am gydraddoldeb rhywedd

6 Hydref 2016

Athena Swan silver logo

Mae Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd yn dathlu ei llwyddiant o dderbyn Gwobr Arian Athena SWAN yn gydnabyddiaeth o’i hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd.

Gydag arwyddair sy’n datgan ‘cydnabod datblygiad cydraddoldeb rhywedd: cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant i bawb’, sefydlwyd Siarter Athena SWAN i hyrwyddo a chydnabod ymrwymiad i hybu gyrfaoedd merched mewn meysydd gwyddonol, technolegol, peirianyddol, mathemategol a meddygol (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Ers hynny, lledaenwyd yr ystod cyfrifoldeb i gydnabod gwaith mewn swyddi proffesiynol a chynnal, ac i fyfyrwyr a staff traws, gan gydnabod ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb rhywedd, ynghyd â dileu rhwystrau i ddatblygiad gyrfaol merched.

Daw’r llwyddiant cyfredol yn sgil ennill Gwobr Efydd Athena SWAN.

Yn ôl, Dr Matt Smalley, un o gyd-Gadeiryddion Pwyllgor Athena SWAN, ac yn un o’r rhai a fu’n gyfrifol am gyflwyno cais yr Ysgol:

“’Roeddem wrth ein bodd yn derbyn y newyddion bod Ysgol y Biowyddorau wedi llwyddo i ennill Gwobr Arian Athena SWAN. Nid yn unig mae arnom ymrwymiad moesol i sicrhau cydraddoldeb cyfle i bob unigolyn, mae diffyg cydraddoldeb o fewn sefydliad yn golygu nad ydym yn llwyddo i wneud y mwyaf o’r talentau a’r galluoedd sydd ar gael ymysg ein gweithlu.

Mae'r dyfarniad yn cydnabod ein hymdrechion, a’n llwyddiannau, nid yn unig i sicrhau cyfleoedd cyfartal yn ein Hysgol, ond hefyd i werthuso ein hunain, adnabod gwendidau a mynd ati i’w datrys.”

Ychwanegodd Dr Smalley:

“Ein nod nawr yw cyflawni ein cynllun gweithredu, sicrhau parhad yr hyn a lwyddwyd i wneud eisoes, a chanolbwyntio ar yr agweddau hynny a amlinellwyd yn ein cais sydd angen eu gwella.”

Rhannu’r stori hon