Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor iechyd meddwl yn y gymuned

5 Hydref 2016

Group meeting

Gall preswylwyr Grangetown sydd am gael cyngor iechyd meddwl fanteisio ar gyngor arbenigol wyneb-yn-wyneb yn eu cymuned mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Brifysgol.

Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles ym Mhafiliwn y Grange yn Grangetown, Caerdydd, ar 10 Hydref – Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd – yn dilyn digwyddiad llwyddiannus tebyg y llynedd.

Bydd arbenigwyr wrth law i roi cyngor a gwybodaeth, boed hynny ar gyfer eich hun, neu ar gyfer partner, aelod o'ch teulu, neu ffrind.

Bydd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, yno i glywed am sut mae'r Brifysgol yn helpu i wella iechyd a lles yn y gymuned.

"Gallai prosiect y Porth Cymunedol yn Grangetown gael cryn effaith ar fywydau preswylwyr lleol. Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl gael cyngor wyneb yn wyneb a gwybodaeth am iechyd meddwl, ar garreg y drws."

Vaughan Gething AC Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl a lles ar draws ein holl gymunedau, gan ddatblygu cadernid a rhoi gwell cefnogaeth i'n pobl ifanc a gwneud Cymru yn genedl sy'n cynorthwyo pobl â dementia."

Dau ddarlithydd o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Alicia Stringfellow a Gemma Stacey-Emile, sy'n trefnu'r digwyddiad, ac mae'n rhan o brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol yn Grangetown.

Dywedodd Gemma: "Rydyn ni am greu ymdeimlad o berthyn ac agwedd gadarnhaol ynglŷn â bod yn rhagweithiol wrth helpu i gyflwyno newidiadau ar sail anghenion iechyd meddwl a lles y gymuned.

"Bydd cyfle i gael gwybodaeth am wasanaethau a grwpiau lleol y gall pobl ddefnyddio eu hunain, neu aelodau o'u teulu a gofalwyr. Bydd cyfle hefyd i glywed am sut gall Pafiliwn y Grange a phrosiectau Porth Cymunedol eraill helpu i wella lles pobl."

Ychwanegodd Alicia: "Eleni rydym yn bwriadu cryfhau ac ehangu ein cysylltiadau, a dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd gydag aelodau o'r gymuned a darparwyr lleol.

"Byddwn yn canolbwyntio ar urddas a chydweithio, ac yn amlinellu datblygiadau ar gyfer y dyfodol yn ystod y dydd."

Grangetown Pavillion

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles, a gynhelir rhwng 10:00 a 15:00, yn cynnwys gwybodaeth am sut mae Pafiliwn y Grange wedi cael ei ailwampio i'w ddefnyddio fel canolfan gymunedol newydd, diolch i'r Porth Cymunedol.

Mae'r Porth Cymunedol, sy'n rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau y Brifysgol, yn gweithio gyda phreswylwyr yr ardal i wneud Grangetown yn lle gwell fyth i fyw ynddo.

Rhannu’r stori hon

A selection of summary reports demonstrating project impact.