Ewch i’r prif gynnwys

WISERD wedi'i amlygu fel 'adnodd o bwys' yn Adolygiad Diamond

4 Hydref 2016

WISERD

Mae adolygiad pwysig o'r modd y caiff prifysgolion eu hariannu yng Nghymru wedi amlygu Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) fel adnodd o bwys.

Cafodd yr Adolygiad o Drefniadau Ariannu Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, o dan arweiniad Syr Ian Diamond, ei gomisiynu yn 2014. Mae'n canolbwyntio ar ehangu mynediad; cefnogi anghenion sgiliau Cymru; cryfhau darpariaeth ran-amser ac ôl-raddedig yng Nghymru; a chynaliadwyedd ariannol hirdymor.  Fel rhan o'r adolygiad, cafodd yr arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil o safon a throsglwyddo gwybodaeth ei asesu hefyd.

Yn ôl y sylwadau yn yr adolygiad am gyfraniad WISERD yn y maes hwn: "...mae'n amlwg bod WISERD yn adnodd pwysig ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ar draws ystod eang o'r gwyddorau cymdeithasol."

Mae'r adolygiad yn mynd ymhellach i argymell y canlynol: "Dylai Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) gael arian craidd gan Lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar bolisïau cymdeithasol, dros gyfnod o bum mlynedd, gan ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf o'i arian yn dod o brosiectau."

Cafodd WISERD ei sefydlu yn 2008 i ddod ag arbenigedd ym meysydd dulliau a methodolegau ymchwil mesurol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe ynghyd, ac adeiladu arno.  Mae WISERD yn cynnal ymchwil a gweithgareddau cynyddu adnoddau sy’n hwyluso datblygiad seilwaith ymchwil ar draws y gwyddorau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD: "Mae hyn yn sêl bendith o bwys gan Adolygiad Diamond ac rwy'n falch iawn bod WISERD wedi'i gydnabod am ehangder a rhagoriaeth ei rhaglenni ymchwil a'i berthnasedd i bolisïau."

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn.