Ewch i’r prif gynnwys

Gall prifysgolion a'r sector creadigol gydweithio i yrru arloesedd

30 Medi 2016

REACT

Mae adroddiad newydd yn dangos bod prifysgolion yn ganolog i dwf yr economi greadigol.

Mae’r Adroddiad REACT yn adrodd arbedair blynedd o waith i sefydlu rhwydwaith cydweithredol arloesol o brifysgolion a busnesau yn y sector creadigol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau (AHRC).

Rhwng 2012 a 2016, bu REACT – prosiect cydweithredol rhwng UWE Bryste, Watershed a Phrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg  – yn cefnogi 53 o brosiectau cydweithredol, sy’n cynnwys 57 o gwmnïau creadigol a 73 o academyddion o fyd y celfyddydau a'r dyniaethau.

O ganlyniad i’r gefnogaeth hon, cafwyd buddsoddiad pellach o dros £5,354,000 ar gyfer y prosiectau, a wnaeth arwain at 86 o gynhyrchion a dyluniadau newydd, 76 o ddarnau meddalwedd newydd, 10 cwmni newydd, 43 o swyddi, 25 o erthyglau ymchwil academaidd a dros 90 o gyflwyniadau mewn cynadleddau ymchwil. At hynny, dathlwyd a rhannwyd y prosiect â mwy na 7,000 o aelodau o'r cyhoedd.

Drwy ddefnyddio methodoleg Sandbox Watershed, roedd modd i rwydwaith REACT gefnogi ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf mewn meysydd mor amrywiol â’r sector treftadaeth, dyfodol y diwydiant cyhoeddi, gwrthrychau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd a’r rhaglen ddogfen ryngweithiol, a chynhyrchion ar gyfer plant. Mae methodoleg Sandbox yn cefnogi pobl i gymryd risgiau creadigol o fewn cymuned sydd wedi’i threfnu â gofal, gan gynnig i unigolion a chwmnïau bach, y lle, yr arian a’r amser i weithio ar eu syniadau mwyaf cyffrous.

"Un o'r prif resymau pam llwyddodd REACT oedd bod gwir cydweithio rhwng y sectorau creadigol a phrifysgolion yn ganolog iddo. Ffactor allweddol arall wnaeth sicrhau llwyddiant y prosiect oedd datblygu dull o ymdrin ag arloesedd sy'n seiliedig ar werthoedd yn hytrach nag allbynnau. Roedd deall y gwerthoedd sy'n sail i waith creadigol wedi ein galluogi i adeiladu rhwydwaith pwerus sy’n sydd wedi’i seilio ar alluogi pobl i ddysgu o’i gilydd."

Yr Athro Jon Dovey Cyfarwyddwr REACT

Mae’r Adroddiad REACT yn cynnwys gwybodaeth werthfawr i lunwyr polisïau, rhanddeiliaid yn y celfyddydau, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), a’r economi greadigol, ac yn amlygu’r rôl ganolog y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei chael yn nhwf canolfannau amlddisgyblaethol rhanbarthol. Mae'n awgrymu dull mwy cyfannol o weithredu er mwyn deall cydweithio traws-sector yn fwy effeithiol, ac yn dadlau o blaid amrywiaeth o fewnbynnau i sicrhau bod y partneriaethau'n effeithlon, bod modd rhannu gwybodaeth yn gyfartal, a bod arloesedd creadigol yn ffynnu.

Dywedodd David Docherty, Prif Swyddog Gweithredol, National Centre for Universities and Business: "Mae’r Adroddiad REACT yn hynod ddiddorol. Mae'n dangos y rôl gall prifysgolion ei chael o ran datblygu'r sector cynyddol bwysig hwn yn economi'r DU. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos pa mor bwysig yw newid diwylliant wrth annog prifysgolion a busnesau creadigol i gydweithio er mwyn ysgogi arloesedd."