Ewch i’r prif gynnwys

Paneli sydd â dynion yn unig

29 Medi 2016

Male Interview Panel

Mae camau breision wedi'u cymryd o ran hawliau cyfartal yn ôl pob golwg, ond a ydym yn agosáu at gyflawni amrywiaeth a chydraddoldeb mewn gwirionedd?

Mae ymchwil newydd gan yr Athro Marysia Zalewski o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn International Feminist Journal of Politics, yn trin a thrafod gwahaniaethu endemig drwy edrych ar y ffenomena gyffredin o gael paneli sydd â dynion yn unig arnynt.

Wrth ddisgrifio sut mae atebion arwynebol i'r broblem o baneli sydd â dynion yn unig, megis ychwanegu rhywun i gynrychioli 'lleiafrifol' i'r panel funud olaf, yn creu camargraff o amrywiaeth, mae'r Athro Zalewski yn mynd i'r afael â'r cwestiwn o sut gallwn dorri cylch gwahaniaethu?

Yn ei herthygl, mae'r Athro Zalewski yn cynnig bod angen trawsnewid y cydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n sail ar gyfer ein harferion sefydliadol.

Mae hi'n nodi bod nifer o fesurau ar waith, megis archwiliadau cyflogau a pholisïau gorfodol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n dadlau bod yr arferion cydraddoldeb sefydliadol hyn yn tueddu i guddio dyfnder y broblem, a hyd yn oed ei gwaethygu, gan nad oes dim ar ôl i gwyno yn ei gylch yn ôl pob golwg.

"Mae cynnal diben ffeministiaeth yn dalcen caled, yn enwedig yn y byd corfforaethol yr ydym ni, fel academyddion, yn rhan ohono...a ydym yn barod i gwestiynu'r drefn sydd ohoni a chymryd camau? Efallai mai nawr yw'r amser i fod yn radical a beirniadol (unwaith eto) a bod yn fwy eglur."

Yr Athro Marysia Zalewski Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae'r erthygl, #AllMalePanels … but … but … but … ar gael i'w darllen yma.