Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd ar y brig

19 Medi 2014

Cardiff University

Unwaith eto mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill tir ar restr safleoedd Prifysgolion y DU yn ôl 'The Times and Sunday Times Good University Guide 2015'. 

Mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y 30 uchaf yn y DU gan symud i fyny chwe safle o 33 i 27 yn y rhestr. Dyma'r newid mwyaf ond un o fewn y Grŵp Russell.

Mae'r newyddion yn adeiladu ar ei llwyddiant diweddar yn Safleoedd y Byd QS, a welodd Prifysgol Caerdydd yn symud i fyny i gael ei chynnwys yn rhestr 125 o Brifysgolion gorau'r byd.

Mae 'The Times and Sunday Times Good University Guide 2015' hefyd wedi cynnwys y Brifysgol yn rhestr y 10 uchaf o ran Prifysgol gorau'r DU o ran swyddi. Mae hi'n nawfed o ran cyflogadwyedd gyda 4 allan o 5 o'i graddedigion (81.7%) yn cael swydd broffesiynol neu'n parhau gydag astudiaethau ôl-radd chwe mis ar ôl gadael. Mae'r Brifysgol yn ogystal yn nawfed o ran cwblhau cwrs ac yn bymthegfed o ran ratio staff-myfyrwyr.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan, wrth groesawu'r 'Guide' ar gyfer 2015: "Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysgu, cyfleusterau ymchwil a seilwaith sydd yn ei dro'n arwain at well rhagolygon gwaith gyda chanran uwch o'r myfyrwyr sy'n gadael yn cael swyddi ar lefel graddedigion. Yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol eleni, cawsom ein sgôr orau erioed ar gyfer 'addysgu ar fy nghwrs', sef 89 y cant, dau bwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd i'r sector."

Prifysgol Caerdydd yw'r unig aelod o brifysgolion ymchwil yng Ngrŵp Russell yng Nghymru, a'i hunig gynrychiolydd sydd wedi'i rancio yn 200 ucha'r byd. Dyma un o'r ychydig brifysgolion yn y DU i ymffrostio mewn dau enillydd Nobel ar y staff ac roedd ar y rhestr fer ar gyfer teitl Prifysgol y Flwyddyn y Sunday Times yn 2012.

Yn ôl Pennaeth Recriwtio Israddedigion, David Roylance: "Peth braf iawn yw cael eich cydnabod fel un o brif brifysgolion y DU. Cawsom ein sgôr uchaf ar gyfer bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr eleni – 89% am yr ail flwyddyn o'r bron – yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol. Mae hyn yn ein gosod uwchben cyfartaledd y sector yn y DU a Chymru. Mae 'The Times a'r Sunday Times University Guide' yn cadarnhau ein bod ni'n parhau i sgorio'n dda ar draws ystod o ddangosyddion, gan gynnwys ansawdd addysgu ac ymchwil, canlyniadau gradd a chyflogaeth i raddedigion."

Yn ôl 'The Times and The Sunday Times Good University Guide 2015', mae ansawdd cynnig Prifysgol Caerdydd yn dwyn ffrwyth, gyda cheisiadau'n tyfu ar raddfa o 25% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae dros hanner yr holl ymgeiswyr yn ennill graddau Safon Uwch AAB fan leiaf. Mae traean o fyfyrwyr Caerdydd yn dod o Gymru ac mae'r rhaglen cyfleoedd byd-eang yn cynnig dewisiadau i astudio, gweithio a gwirfoddoli ar draws y byd.

Rhannu’r stori hon