Ewch i’r prif gynnwys

Torri tir newydd yn y DU ac Ewrop

21 Medi 2016

Professor René Lindstädt
Professor René Lindstädt

Mae ymchwilydd o fri rhyngwladol wedi'i benodi'n Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r Athro René Lindstädt yn arbenigo mewn economi wleidyddol, sefydliadau gwleidyddol, theori ffurfiol a methodoleg gwleidyddol, ac ymunodd â'r Brifysgol ar 1 Medi 2016 fel Pennaeth ac Athro'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Yn ei rôl newydd, bydd yr Athro Lindstädt yn edrych yn strategol ar yr Ysgol amlddisgyblaethol sy'n gartref i'r Gyfraith, Canolfan yr Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, yn ogystal â Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae'r Ysgol yn un o recriwtwyr mwyaf y Brifysgol, ac mae wedi denu dros 1,170 o fyfyrwyr newydd ym mis Medi eleni.

Wrth siarad am ei gynlluniau ar gyfer yr Ysgol, dywedodd yr Athro Lindstädt: "Fel Pennaeth yr Ysgol, fy mhrif nod fydd manteisio ar enw da rhagorol ein tair adran, ac adeiladu arno, fel bod yr Ysgol yn torri tir newydd yn y DU ac Ewrop ar gyfer ymchwil ac addysg ryngddisgyblaethol ym meysydd y gyfraith a gwleidyddiaeth."

Daw'r Athro Lindstädt o Hamburg, yr Almaen, yn wreiddiol ac mae wedi gweithio'n helaeth yn y DU ac UDA. Mae wedi bod yn Bennaeth Adran y Llywodraeth ac yn Gyfarwyddwr Ysgol Haf Essex ym maes Dadansoddi Data Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Essex. Roedd hyn yn dilyn cyfnod yn SUNY Stony Brook, Efrog Newydd a Trinity College, Dulyn.

Mae gan yr Athro Lindstädt ddiddordeb arbennig mewn dysgu cymdeithasol a lledaenu syniadau, atebolrwydd gwleidyddol, cyfathrebu strategol a chydweithio. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion poblogaidd gan gynnwys yr American Journal of Political Science, Political Analysis, Journal of Politics, Comparative Political Studies, ac NYU Law Review. Ef hefyd yw Golygydd y British Journal of Political Science, cylchgrawn uchaf iawn ei barch ar draws maes y Gwyddorau Gwleidyddol.

Yn ogystal â phenodi'r Athro Lindstädt, mae dau bennaeth adran newydd wedi'u penodi yn nhîm arweinyddiaeth yr ysgol. Mae Dr Russell Sandberg, sy'n ysgolhaig ym maes Cyfraith Grefyddol a Hanes Cyfreithiol wedi'i benodi'n Bennaf y Gyfraith. Ymunodd Dr Branwen Gruffydd Jones â'r Ysgol ddechrau 2016 fel Darllenydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, ac mae bellach wedi'i phenodi'n Bennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae'r Athro Lindstädt yn olynu cyn-bennaeth yr Ysgol, yr Athro Daniel Wincott, fydd yn parhau i Gadeirio Grŵp Cyfraith a Chymdeithas Blackwell yn Adran y Gyfraith.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cymhwyso ein hymchwil i heriau pwysig i greu gwelliannau ar draws meysydd amrywiol.