Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli pobl ifanc

15 Medi 2016

glamorgan archives

Mae pobl ifanc mewn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Caerdydd wedi cael cyfle i ddylunio eu lleoliadau profiad gwaith eu hunain, diolch i Brosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol.

Mae rhaglen haf Cyfleoedd i Bobl Ifanc CAER – sydd wedi'i hariannu gan y Prosiect Partneriaethau Ysgolion – wedi gweithio gyda grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau o Goleg Cymunedol Llanfihangel er mwyn helpu i godi eu dyheadau a'u hyder, ac i ddilyn eu trywydd dysgu eu hunain.

Gyda thîm o'r Brifysgol a'r sefydliad datblygiad cymunedol lleol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (GCT), creodd y bobl ifanc gyfleoedd gwaith pwrpasol a oedd yn rhoi cyfle iddynt ymwneud â'u cymuned a'u treftadaeth mewn modd cadarnhaol, ac i ennill Credydau Amser yn sgîl hynny.

Buodd un myfyriwr yn gwirfoddoli mewn canolfan leol ac yn helpu mewn caffi straeon ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc ar ei leoliad. Dechreuodd y myfyriwr drwy wylio eraill, ac erbyn diwedd yr haf roedd wedi datblygu ac arwain gweithgareddau i deuluoedd.

Cymerodd person ifanc arall ran ym mhrosiect Prifysgol Caerdydd, Trek to Connect, gan helpu i ddatblygu taith geogelcio â thema treftadaeth o amgylch caeau Trelai yng Nghaerau, gyda gwirfoddolwyr lleol eraill. Cynhaliodd myfyriwr arall ymchwil i hanes ei deulu gydag archifwyr yn Archif Morgannwg.

Fel rhan o'r rhaglen, cafodd y bobl ifanc gyfle i gael profiadau newydd, megis sgïo i ddechreuwyr, taith bysgota, a chwrs coginio i bobl ifanc.

Dywedodd arweinydd y prosiect, David Wyatt, yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: "Mae Prosiect Cyfleoedd i Bobl Ifanc CAER yn gynllun peilot sy'n torri tir newydd, ac yn rhoi cyfleoedd bywyd a sgiliau cyflogadwyedd newydd i grŵp o bobl ifanc sy'n wynebu heriau sylweddol.

"Mae'n dod ag amrywiaeth o bartneriaid ynghyd, gan gynnwys athrawon ysgolion uwchradd lleol, gweithwyr datblygiad cymunedol, academyddion o Brifysgol Caerdydd, a gweithwyr treftadaeth, er mwyn ceisio mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud ag ymddygiad ac allgáu; gan ennyn diddordeb pobl ifanc yn eu gwaith ysgol unwaith eto, ac agor eu llygaid i gyfleoedd newydd y tu hwnt i'w hysgol uwchradd."

Ychwanegodd: "Cynllun peilot yw hwn ar hyn o bryd, ond gan fod y prosiect wedi bod yn hynod lwyddiannus rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cynnal a datblygu'r fenter gyda'n partneriaid cymunedol yn GCT – mae ganddo botensial anferth, a byddai modd cyflwyno'r fenter mewn lleoliadau Cymunedau yn Gyntaf eraill."

Mae prosiect Cyfleoedd Pobl Ifanc CAER yn rhan o brosiect parhaus Treftadaeth CAER, sy'n helpu cymunedau Trelái a Chaerau i ailgysylltu â'u treftadaeth, ac yn datblygu cyfleoedd addysgol yn unol â rhaglen Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant Llywodraeth Cymru.

Menter gan Gynghorau Ymchwil y DU yw'r Prosiect Partneriaethau Ysgolion, sy'n helpu ymchwilwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol â myfyrwyr, ac mae hefyd yn cyflwyno cyd-destunau ymchwil cyfoes ac ysbrydoledig i sefyllfaoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol er mwyn gwella a chyfoethogi'r cwricwlwm.

Rhannu’r stori hon