Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu am bensaernïaeth gynaliadwy

8 Medi 2014

Learning about sustainable architecture

Mae myfyrwyr pensaernïaeth rhyngwladol wedi ymweld â'r Brifysgol i ddysgu mwy am ddylunio carbon isel a chynaliadwy gan arbenigwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Lansiwyd y Rhaglen Haf Pensaernïaeth Carbon Isel (LCASP) gyntaf ym mis Gorffennaf 2013 gyda'r nod o ddod ag israddedigion a graddedigion diweddar rhyngwladol o ysgolion pensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig ynghyd sy'n awyddus i ddatblygu profiad y DU mewn dylunio carbon isel. Yn ddiweddar, cynhaliodd yr ysgol ei hail raglen â'r thema benodedig 'Amgylcheddau Adeiledig Cynaliadwy'.

Yn ystod y rhaglen a barodd bythefnos, cymerodd y 91 o fyfyrwyr a oedd wedi teithio o Tsieina, yr Aifft, Sawdi Arabia, India a Lebanon ran mewn darlithoedd rhyngweithiol ac ysbrydoledig, gweithdai, seminarau, teithiau maes a gwaith prosiect.

Roedd y gwaith prosiect yn cynnwys modelu cyfrifiadurol, gwneud modelau ffisegol a defnyddio cromen awyr artiffisial o'r radd flaenaf yr Ysgol ar gyfer archwiliadau golau dydd ac optimeiddio dyluniadau. Hefyd, ymwelodd y myfyrwyr â lleoliadau carbon isel a chynaliadwy gan gynnwys yr Arddangosfa Grisial yn Llundain, Parc Arloesedd BRE yn Watford, Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Chôr y Cewri.

Croesawyd y myfyrwyr gan yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yr Athro Chris Tweed, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a'r Athro Phil Jones, Cadeirydd Gwyddor Pensaernïol a Chadeirydd y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI).

Dywedodd Dr Heba Elsharkawy, Cydlynydd LCASP a darlithydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru: "Nid darparu cyfarwyddeb ar gyfer dylunio carbon isel a chynaliadwy yw nod y darlithoedd, y seminarau a'r teithiau maes, ond creu crwsibl o syniadau sy'n annog trafodaeth ac yn creu ymagweddau pwrpasol tuag at ddylunio cynaliadwy yn yr amgylchedd adeiledig. LCASP group outside The Crystal Exhibition_web

"Cyflwynwyd y myfyrwyr i ystod o bynciau, o ystyriaethau trefol cynllunio i ddyluniad technegol adeiladwaith a systemau ar gyfer amgylcheddau adeiledig cynaliadwy, a rhoddwyd hyfforddiant iddynt ar bwysleisio ymagwedd gytbwys tuag at agweddau amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol a thechnegol yr amgylchedd adeiledig."

Mae gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru enw da am fod yn un o'r ysgolion gorau yn y DU am ei hymagwedd gyfannol tuag at ddylunio sy'n croesawu pob agwedd ar ddylunio a chynllunio cynaliadwy. Caiff yr Ysgol ei chydnabod fel un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn y byd o ran ymchwil a datblygu dyluniadau cynaliadwy a charbon isel ar gyfer adeiladau, ac ymchwilio i ddatblygiadau cynaliadwy yn y DU, Tsieina a'r Dwyrain Canol.

Rhannu’r stori hon