Ewch i’r prif gynnwys

Barnu lefelau meddwdod

13 Medi 2016

drunk

Pan fyddan nhw’n feddw ac yng nghanol yfwyr eraill, mae sut mae pobl yn barnu lefel eu meddwdod eu hunain a’r risgiau cysylltiedig yn dibynnu ar ba mor feddw yw eu cyfoedion, yn hytrach na faint o alcohol maen nhw wedi’i yfed mewn gwirionedd, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn mynediad agored BMC Public Health, roedd canfyddiad pobl o’u meddwdod eu hunain, i ba raddau roedden nhw’n yfed yn ormodol, a goblygiadau iechyd tymor hir eu hymddygiad yfed, pan fyddent yn feddw ac mewn amgylcheddau lle roedd pobl yn yfed, yn gysylltiedig â pha mor feddw yr oeddent o’u cymharu ag eraill o’u cwmpas.  Roedd pobl yn fwy tebygol o danbrisio’u lefel eu hunain o yfed, eu meddwdod a’r risgiau cysylltiedig pan fyddent yng nghanol pobl eraill feddw, ond yn teimlo eu bod yn wynebu risg fwy pan fyddent yng nghanol pobl oedd yn fwy sobr.

Dywedodd yr Athro Simon Moore, o Brifysgol Caerdydd:  "Mae gan hyn oblygiadau pwysig iawn o ran sut gallem ni weithio i atal pobl rhag yfed gormod o alcohol. Gallem naill ai weithio i leihau nifer y bobl feddw iawn mewn amgylchedd yfed, neu gallem ni gynyddu nifer y bobl sydd yn sobr. Mae ein damcaniaeth yn rhagweld mai’r olaf fyddai’n cael yr effaith fwyaf."

Dyma’r astudiaeth gyntaf i edrych ar sut mae pobl yn barnu eu meddwdod eu hunain a chanlyniadau yfed ar eu hiechyd, pan fyddant yn feddw ac mewn amgylcheddau yfed go iawn.   Ni fu ymchwil flaenorol ond yn ymchwilio i gyfranogwyr pan oedden nhw’n sobr ac mewn amgylcheddau lle nad oedd yfed yn digwydd, gan ddibynnu ar gof y cyfranogwyr i gymharu faint roedden nhw a phobl eraill yn yfed.   Hefyd, nid oedd yn glir o'r blaen a oedd pobl yn cymharu eu lefelau eu hunain o feddwdod â meddwdod gwirioneddol pobl eraill neu pa mor feddw roedden nhw’n credu eu bod nhw.

Dywedodd Simon Moore: "Yn hanesyddol mae ymchwilwyr wedi gweithio dan y rhagdybiaeth bod y rhai sy’n yfed fwyaf o alcohol yn ‘dychmygu’ yn anghywir bod pawb arall hefyd yn yfed yn ormodol.  Rydym wedi gweld, faint bynnag mae rhywun wedi yfed, os byddan nhw’n gweld eraill sy’n fwy meddw, y byddan nhw’n teimlo eu bod yn wynebu llai o risg yn sgîl yfed mwy.”

Profodd yr ymchwilwyr grynodiad yr alcohol yn anadl (BrAC) 1,862 o unigolion, a ddewiswyd o wahanol grwpiau cymdeithasol, gyda chyfartaledd oed o 27. Cynhaliwyd profion Alcometer rhwng 8pm a 3am ar nos Wener a nos Sadwrn mewn pedwar lleoliad ger nifer fawr o safleoedd oedd yn gweini ac yn gwerthu alcohol. Defnyddiwyd yr wybodaeth rhyw a lleoliad i rannu’r cyfranogwyr yn wyth grŵp cyfeirio - un grŵp ar gyfer y ddwy ryw ym mhob lleoliad, ar sail y rhagdybiaeth y byddai yfwyr yn cymharu eu hunain ag eraill o’r un rhyw yn yr un lleoliad.  Graddiwyd y lefelau BrAC unigol oddi mewn i bob grŵp cyfeirio.

I ymchwilio i'r berthynas rhwng safle a sut roedd pobl yn barnu, atebodd is-set o 400 o gyfranogwyr bedwar cwestiwn ychwanegol yn seiliedig ar safle ynghylch eu canfyddiad o lefel eu meddwdod a chanlyniadau iechyd posibl faint roedden nhw’n yfed: “Pa mor feddw wyt ti ar hyn o bryd?” ”Pa mor eithafol mae dy yfed wedi bod heno?” “Taset ti’n yfed cymaint â heno bob wythnos, pa mor debygol yw hi y byddi di’n niweidio dy iechyd / yn dioddef o sirosis yr afu o fewn y 15 mlynedd nesaf?” Ni chafodd ymatebwyr oedd â BrAC o sero eu cynnwys yn y dadansoddiadau dyfarniad safle.

Ar gyfartaledd, roedd pobl yn ystyried eu hunain fel cymharol feddw, ac yn wynebu risg gymedrol, er bod eu BrAC yn uwch na therfyn safonol yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig ar gyfer gyrru (35 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl). Ar gyfartaledd roedd gan y dynion lefelau BrAC uwch na’r benywod.

Dylai gwybod y gall eu hamgylchedd a sylwi ar eraill o’u hamgylch effeithio ar benderfyniadau pobl ynghylch yfed mwy neu beidio lywio strategaethau lleihau niwed alcohol yn y dyfodol, yn ôl yr ymchwilwyr.  Fodd bynnag, mae’r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewisiadau yfwyr o ran parhau i yfed neu beidio yn gymhleth, ac mae’n bosib mai dim ond yn achos ambell un y bydd modd ymyrryd.

Astudiaeth arsylwadol oedd hon, felly gall gynyddu ein dealltwriaeth o gysylltiadau posibl rhwng meddwdod canfyddedig ac amgylcheddau yfed, ond ni all ddangos achos ac effaith oherwydd gall ffactorau eraill chwarae rôl. Byddai angen astudiaeth arbrofol i ddangos achos ac effaith.

Mae’n bosib bod yr astudiaeth wedi’i chyfyngu gan y rhagdybiaeth bod pobl sy’n yfed yn yr un amgylchedd yn dylanwadu ar ei gilydd, er bod mwyafrif y bobl yn yr wyth grŵp a astudiwyd yma yn annhebygol o fod â pherthynas gymdeithasol â’i gilydd.  Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach i ddylanwadau grwpiau cymdeithasol agosach ar ganfyddiadau ynghylch yfed.

Mae’r astudiaeth 'A Rank Based Social Norms Model of How People Judge Their Levels of Drunkenness Whilst Intoxicated’ wedi’i chyhoeddi yn BMC Public Health.

Rhannu’r stori hon