Ewch i’r prif gynnwys

Cyfiawnder yng Nghymru

12 Medi 2016

Judgement

Wrth i Gymru symud at fodel datganoli newydd o bwerau wedi ei cadw’n ôl, mae adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amlinellu diwygiadau allweddol er mwyn gwella cyfiawnder yng Nghymru.

Yr adroddiad yw'r cyntaf o blith cyfres o gyfraniadau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fydd yn hybu trafodaeth am ddyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru wrth i'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ymwahanu.

Mae'r adroddiad yn argymell:

  • Creu 'Canolfan Arbenigedd Cymreig' yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
  • Sefydlu Comisiwn Sefydlog ar Gyfiawnder yng Nghymru.
  • Sefydlu Swyddfa Uchel Lys gwbl weithredol yng Nghymru.
  • Sicrhau cynrychiolaeth i Gymru yng Ngoruchaf Lys y DU.
  • Cyhoeddi data ar wahân a dangosyddion perfformiad ynglŷn â gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Cafwyd y sylwadau canlynol gan awdur yr adroddiad, Huw Pritchard: "Mae gwahaniaeth cynyddol rhwng cyfreithiau Cymru a Lloegr, a bydd hyn yn cynyddu wrth i ni symud at fodel datganoli newydd sy'n cadw pwerau yn ôl.

"Mae'n bwysig i Gymru gael ei chymryd o ddifrif yn y system gyfiawnder. Mae sicrhau bod trefniadau addas ar gyfer y gyfraith yng Nghymru yn y system gyfiawnder sengl yn hanfodol er mwyn i system gyfiawnder Cymru a Lloegr allu ymdopi â'r gwahaniaeth cynyddol rhwng cyfreithiau Cymru a chyfreithiau Lloegr.

"Mae llu o sefydliadau'n rhan o'r gwaith o ddarparu cyfiawnder yng Nghymru, a hynny'n cynnwys y llysoedd a thribiwnlysoedd, y farnwriaeth, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref, yr heddlu, a'r gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid. Wrth i ddatganoli ddatblygu, mae datblygiadau sefydliadol ad hoc wedi arwain at fylchau ac achosion o orgyffwrdd yn swyddogaethau'r system gyfiawnder.

"Mae yna hefyd ddiffyg democrataidd o ran craffu ar y system gyfiawnder yng Nghymru.

"Mae hyn oll yn golygu bod angen diwygio'r trefniadau ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd o arferion da, lle cafwyd enghreifftiau o gydweithio cadarnhaol rhwng llywodraethau'r DU a Chymru, ond mae angen gwneud llawer mwy i gydnabod Cymru a chyfreithiau Cymru yn y system gyfiawnder unedig.

"Yn benodol, mae angen i lywodraeth y DU greu Canolfan Arbenigedd Cymreig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sefydlu Swyddfa Uchel Lys gwbl weithredol yng Nghymru; sicrhau cynrychiolaeth i Gymru yng Ngoruchaf Lys y DU, a chyhoeddi data ar wahân ynglŷn â gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

"Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio grŵp gwaith 'Cyfiawnder yng Nghymru' a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i ystyried goblygiadau ymarferol corff o gyfreithiau ar wahân yng Nghymru ar gyfer y system gyfreithiol y mae Cymru a Lloegr yn ei rhannu."