Ewch i’r prif gynnwys

Pŵer blodau

1 Medi 2014

Flower power

Mae swyddfeydd 'gwyrdd' gyda phlanhigion yn gwneud staff yn hapusach ac yn fwy cynhyrchiol na chynlluniau mwy cynnil nad ydynt yn cynnwys gwyrddni, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Yn yr astudiaeth maes gyntaf o'i math, a gyhoeddir heddiw, gwelodd ymchwilwyr y gallai cyfoethogi swyddfa 'gynnil' â phlanhigion arwain at gynnydd o 15% mewn cynhyrchiant.

Bu'r tîm yn archwilio effaith swyddfeydd 'cynnil' a 'gwyrdd' ar ganfyddiadau staff o ran ansawdd yr aer, canolbwyntio, a boddhad yn y gweithle, a buont yn monitro lefelau cynhyrchiant dros y misoedd dilynol mewn dwy swyddfa fasnachol fawr yn y DU a'r Iseldiroedd.

Dywedodd yr ymchwilydd arwain Marlon Nieuwenhuis, o'r Ysgol Seicoleg: "Mae ein hymchwil yn awgrymu bod buddsoddi mewn tirlunio'r swyddfa gyda phlanhigion yn talu drwy wella ansawdd bywyd a chynhyrchiant gweithwyr swyddfa.

"Er bod ymchwil flaenorol mewn labordy wedi awgrymu'r cyfeiriad hwn, ein hymchwil ni, hyd y gwyddom ni, yw'r cyntaf i archwilio hyn mewn swyddfeydd go iawn, gan ddangos manteision yn y tymor hir. Mae'n herio'n uniongyrchol yr athroniaeth fusnes gyffredinol fod swyddfa gynnil gyda desgiau glân yn fwy cynhyrchiol."

Dangosodd yr ymchwil fod planhigion yn y swyddfa'n arwain at welliant sylweddol mewn boddhad yn y gweithle, mewn lefelau canolbwyntio hunan-gofnodedig, ac yn ansawdd canfyddedig yr aer.

Mae dadansoddiadau o'r rhesymau pam fod planhigion yn fuddiol yn awgrymu bod swyddfa werdd yn gwella ymgysylltiad gwaith cyflogeion drwy eu gwneud yn fwy ymrwymedig yn gorfforol, yn wybyddol, ac yn emosiynol i'w gwaith.

Dywedodd y cydawdur Dr Craig Knight, o Brifysgol Caerwysg: "Mae trin gweithleoedd go iawn a swyddi go iawn yn seicolegol yn ychwanegu dyfnder newydd i'n dealltwriaeth o'r hyn sy'n iawn a'r hyn sydd o'i le o ran dylunio a rheoli gweithleoedd presennol. Nawr, rydym yn datblygu templed ar gyfer swyddfa wirioneddol glyfar."

Ychwanegodd yr Athro Alex Haslam, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Queensland, sydd hefyd yn gydawdur yr astudiaeth: "Mae athroniaeth 'gynnil' wedi bod yn ddylanwadol ar draws ystod eang o safleoedd sefydliadol Mae ein hymchwil yn cwestiynu'r argyhoeddiad cyffredin hwn bod llai yn fwy. Weithiau, dim ond llai yw llai."

Ychwanegodd Marlon Nieuwenhuis: "Roedd cyfoethogi man a oedd gynt yn gynnil gyda phlanhigion wedi arwain at gynnydd o 15% mewn cynhyrchiant – ffigwr sy'n cyd-fynd yn agos â chanfyddiadau astudiaethau labordy a gynhaliwyd yn flaenorol. Mae'r casgliad hwn yn mynd yn groes i'r ysbryd economaidd a gwleidyddol presennol yn ogystal â thechnegau rheoli modern 'cynnil', ac eto serch hynny mae'n amlygu llwybr at ffordd fwy pleserus, fwy cysurus a mwy proffidiol o weithio mewn swyddfeydd."

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys academyddion o Brifysgol Caerwysg, Prifysgol Groningen yn yr Iseldiroedd, a Phrifysgol Queensland, Awstralia. Cyhoeddir The Relative Benefits of Green Versus Lean Office Space: Three Field Experiments heddiw yn y Journal of Experimental Psychology: Applied. http://psycnet.apa.org/psycinfo/2014-30837-001/

Rhannu’r stori hon