Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniad mawreddog ar gyfer gwasanaethau cymorth a lles myfyrwyr

1 Medi 2014

Prestigious award for student support and wellbeing services

Rhoddwyd dyfarniad gwasanaeth cwsmeriaid mawreddog i Isadran Cymorth a Lles Myfyrwyr y Brifysgol, sy'n cydnabod y gwasanaeth o'r radd flaenaf y mae'n ei roi i fyfyrwyr er mwyn gwella eu profiad yn y Brifysgol.

Mae'r safon Customer Service Excellence ® yn ddyfarniad cydnabyddedig Llywodraeth y DU ar gyfer rhagoriaeth o ran gwasanaeth cwsmeriaid sydd â'r nod o gynnig offeryn gwella unigryw i helpu'r rhai sy'n cyflawni gwasanaethau i roi eu cwsmeriaid wrth graidd yr hyn maent yn ei wneud.

Er mwyn cyflawni'r dyfarniad, cafodd yr Isadran ei harfarnu yn erbyn 57 elfen o fewn pump o feini prawf: ansawdd cyflawni, amseroldeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd y staff. Yn ogystal, rhoddwyd pwyslais ar ba mor dda mae'r Isadran yn adnabod anghenion ei chwsmeriaid, pa mor dda mae'n deall profiad y cwsmer a sut mae'n mesur bodlonrwydd o ran gwasanaeth.

Cafodd nifer o gryfderau eu hamlygu fel rhan o'r asesiad, gan gynnwys:

  • yr agwedd gadarnhaol a'r ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i'r cwsmer ymhlith staff sy'n darparu gwasanaeth, sydd bob amser yn rhoi anghenion y myfyrwyr yn gyntaf, a;
  • threfniadau partner yr Isadran a roddwyd ar waith er mwyn gwella profiad y myfyrwyr, megis cynnig cyngor a chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal, mewn partneriaeth â Buttle UK ac yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr ar gyngor academaidd a chymorth lles i fyfyrwyr.

Yn ogystal, dyfarnwyd statws 'cydymffurfio a mwy' i'r Isadran yn yr asesiad oherwydd ei hymagwedd at adnabod a rhyngweithio gyda myfyrwyr sy'n anodd eu cyrraedd neu'n agored i niwed.

Dywedodd Jayne Dowden, y Prif Swyddog Gweithredu: "Mae hyn yn gydnabyddiaeth o'r gwaith sy'n cael ei wneud bob dydd er mwyn sicrhau y gofelir am ein myfyrwyr a'u bod yn cael profiad gwych yng Nghaerdydd."

Ychwanegodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr yr Isadran Cymorth a Lles Myfyrwyr: "Mae'r safon Customer Service Excellence wedi rhoi ffordd i ni o arfarnu sut rydym yn gweithio gyda myfyrwyr a staff ar draws gymuned y Brifysgol. Rydym yn hynod falch ein bod wedi cyflawni'r safon hon ac yn gwerthfawrogi gwaith yr holl staff sy'n ymwneud â sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt hwn."

Mae'r Isadran yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor ac Arian, y Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, yr Uned Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Mae'r Gwasanaethau wedi'u lleoli yn y Canolfannau Cymorth i Fyfyrwyr yn 50 Plas y Parc a Thŷ Aberteifi ar gampysau Cathays a'r Mynydd Bychan yn ôl eu trefn, a lleolir rhai gwasanaethau yn 37-38 Plas y Parc.

Mae Stephen Fry, sy'n Gymrawd er Anrhydedd y Brifysgol, yn adrodd ac yn serennu mewn tair ffilm fer wedi'u hanimeiddio sy'n cyflwyno myfyrwyr i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau y gallant ddod o hyd iddynt ar hyd Plas y Parc, a adwaenir hefyd fel Heol Fawr y Myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys y Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr yn ogystal â'r Ddesg Gwasanaethau TG, y Caplaniaethau, Canolfan Iechyd y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a swyddfa diogelwch 24 awr.

Rhannu’r stori hon