Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

8 Medi 2016

Kirsty Williams

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â Phrifysgol Caerdydd heddiw i gyflwyno ei haraith fawr gyntaf ynghylch addysg uwch ers cael ei phenodi'n aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei haraith yn Ysgol Busnes y Brifysgol, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Addysg mai nawr yw'r amser i brifysgolion Cymru ailgysylltu â'r cymunedau sydd o'u cwmpas.

Gan gydnabod sut mae gwleidyddion a'r llywodraeth fel ei gilydd yn wynebu gorchwyl tebyg, galwodd ar brifysgolion i adennill eu cenhadaeth ddinesig drwy wneud rhagor i estyn allan a chyrraedd pobl ledled Cymru mewn cyfnod o ansicrwydd yn dilyn y bleidlais i ymadael â'r UE.

Yn ogystal, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Addysg bod cyfle gennym nawr i fod yn fwy agored i'r byd.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Colin Riordan:

"Mae bod yn rhan o'r gymuned a chyfrannu ati, wastad wedi bod wrth wraidd yr hyn a wnawn fel prifysgolion. Ar ôl y bleidlais i ymadael â'r UE, ac wrth i ni ailystyried ein lle yn Ewrop ac yn fyd-eang, mae gennym y cyfle i fyfyrio ar sut gallwn gael dylanwad cadarnhaol ar y gymuned ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol, a thu hwnt.

"Gall prifysgolion chwarae rôl arwyddocaol wrth wella cydlyniant cymdeithasol, dod â phobl ynghyd a meithrin cysylltiadau cymunedol yn seiliedig ar werthoedd a rennir, waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw, eu hil neu eu crefydd."

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru

"Rydym yn falch o'n llwyddiannau, ond gallwn wneud rhagor i gofleidio a gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol y cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt. Rydym yn cefnogi'r llywodraeth gant y cant wrth weithio y tu hwnt i gyfyngiadau ein ffiniau ffisegol a rhithwir i gefnogi a datblygu cydlyniant cymdeithasol ystyrlon a chynaliadwy."

Rhannu’r stori hon