Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth bwysig am iechyd a diogelwch mewn porthladdoedd cynwysyddion ledled y byd

9 Medi 2016

Gallai astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd gan ymchwilwyr y Brifysgol osod sylfaen ar gyfer gwella iechyd, diogelwch a lles gweithwyr yn sylweddol yn y diwydiant porthladdoedd cynwysyddion byd-eang.

Cynhaliwyd yr adroddiad pwysig hwn, Experiences of arrangements for health, safety and welfare in the global container terminal industry, gan yr Athro David Walters a Dr Emma Wadsworth, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, a hon yw'r unig astudiaeth o'i math a gynhaliwyd ar lefel mor drylwyr. Cafodd ei chomisiynu gan IOSH (y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol) a'r ITF (y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Gweithwyr ym maes Trafnidiaeth).

Mae'r ymchwil yn cadarnhau canfyddiadau astudiaeth flaenorol am iechyd a diogelwch mewn terfynfeydd rhwydwaith byd-eang ac yn nodi peryglon, materion sy'n peri pryder, a diffygion parhaus yn y systemau rheoli ymddygiad a ddefnyddir yn rheolaidd gan weithredwyr. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau clir ynglŷn â sut i wella.

Cafodd yr ymchwilwyr gyfle unigryw i gael mynediad at weithleoedd chwe gweithredwr porthladdoedd/terfynfeydd rhwydwaith rhyngwladol, sy'n ymddangos yn ddienw yn y data.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd parhaus a wnaed gan weithredwyr porthladdoedd, mae'r adroddiad yn argymell y dylid rhoi sylw i'r meysydd canlynol sy'n peri pryder:

  • Adroddiadau anghywir am ganlyniadau iechyd a diogelwch: hyd yn oed yng nghyd-destun modelau rheoli iechyd a diogelwch, a bod lefelau'r risgiau ac anafiadau'n uwch na'r hyn a nodir yn yr adroddiadau.
  • Diffyg darpariaeth ar gyfer y rhywiau: canfu'r arolygiad mai prin iawn yw'r sylw a roddir i anghenion penodol gweithwyr benywaidd.
  • Cyfyngiadau systemau rheoli ymddygiad: mae'r adroddiad yn canfod bod y model iechyd a diogelwch galwedigaethol ymddygiadol a ddefnyddir yn eang yn llai effeithiol na systemau cyfranogol, sy'n pwysleisio rôl gweithwyr fel partneriaid yn y broses o reoli iechyd a diogelwch.
  • Pwyslais ar risgiau diogelwch uniongyrchol ar draul effeithiau tymor hwy ar iechyd.
  • Trefniadau isgontractio sy'n tanseilio'r gwaith o lunio adroddiadau a'r diwylliant o sicrhau diogelwch: mae'r adroddiad yn dangos bod canlyniadau iechyd a diogelwch yn waeth ar gyfer gweithwyr a isgontractiwyd.
  • Targedau cynhyrchiant sy'n tanseilio awydd pobl i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles.
  • Diffyg ymagwedd gyson at reoli iechyd a diogelwch galwedigaethol, o leiaf o ran gosod y safonau uchaf waeth beth fo'r wlad.

Dywedodd yr Athro Walters: “Hon yw'r astudiaeth fawr gyntaf i roi esboniad manwl o'r trefniadau iechyd a diogelwch mewn terfynfeydd cynwysyddion blaenllaw ledled y byd. Er bod ei chanfyddiadau'n dangos cyd-ymrwymiad ymhlith gweithredwyr terfynfeydd byd-eang blaenllaw at fynd i'r afael â rheoli diogelwch yn y terfynfeydd hyn ledled y byd, maent hefyd yn dangos rhai bylchau sylweddol rhwng disgwyliadau gweithredwyr ynglŷn ag effeithiolrwydd y trefniadau hyn, a phrofiadau ac argraffiadau'r gweithwyr fu'n rhan o'r astudiaeth.

“Yn benodol, mae'n dangos bod lefel y trefniadau diogelwch ar gyfer gweithwyr mewn gwahanol swyddi, dan wahanol drefniadau cyflogaeth ac yng ngwahanol derfynfeydd mewn gwledydd gwahanol, yn amrywio'n sylweddol. Nid yw'n syndod ei bod yn dangos bod y cyd-destunau rheoleiddiol a chysylltiadau llafur cenedlaethol y mae'r terfynfeydd wedi eu lleoli ynddynt hefyd yn chwarae rhan sylweddol o ran ffurfio profiadau gweithwyr o ddiogelwch ac iechyd galwedigaethol.”

Esboniodd Paddy Crumlin, llywydd ITF a chadeirydd ei adran docwyr: "Yr ymchwil hon yw'r dystiolaeth fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ynglŷn ag iechyd a diogelwch galwedigaethol mewn terfynfeydd cynwysyddion. Hon yw'r unig astudiaeth ryngwladol o'i math, ac mae wedi nodi meysydd allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys gwahaniaethau rhwng canfyddiadau'r gweithwyr a'r rheolwyr ynglŷn â gweithredu polisïau iechyd a diogelwch galwedigaethol, ynghyd â gwerth sylweddol sicrhau cyfraniad gan weithwyr ac undebau at y gwaith o ddatblygu'r polisïau hynny a'u rhoi ar waith."

"Rydym yn croesawu cefnogaeth sawl cwmni sydd wedi cydweithio â'r astudiaeth annibynnol hon gyda'r nod o sicrhau bod porthladdoedd yn lleoedd mwy diogel. Credwn y bydd y materion a nodwyd o ddiddordeb iddynt, a, gobeithiwn, i'r diwydiant cyfan. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau cydweithrediad y diwydiant o ran datrys y problemau hyn. Y ffaith syml yw na ellir rhoi pris ar fywydau docwyr. Rydym hefyd yn argymell yn gryf y dylid ystyried y canfyddiadau sylweddol hyn yng Nghyfarfod Arbenigwyr Technegol yr ILO (y Sefydliad Llafur Rhyngwladol), a fydd yn gweithio i ddiwygio Cod Ymarfer Iechyd a Diogelwch ym Mhorthladdoedd y sefydliad hwnnw yng Ngenefa ym mis Tachwedd eleni."

"Mae'r prosiect ymchwil cydweithredol mawr hwn yn dangos sut y gellid sicrhau dyfodol mwy diogel ar gyfer gweithwyr porthladdoedd cynwysyddion. Rydym yn gwahodd pob cwmni i fynd ar y daith honno gyda'i gilydd."

Paddy Crumlin Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Gweithwyr ym maes Trafnidiaeth

Dywedodd Richard Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus yn IOSH: "Mae IOSH yn croesawu'r canfyddiadau ymchwil hyn, a byddem yn annog pob gweithredwr terfynfa i'w hystyried yn ofalus. Er bod rhai enghreifftiau o arferion da, ceir hefyd anghysondeb sy'n peri pryder, gan fod gweithwyr yn sôn am lefel uwch o niwed sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd heb ei gofnodi yn nata'r cwmnïau, ac am bryderon ynglŷn â'u hiechyd, diogelwch a lles. Hoffem, felly, weld arferion da yn cael eu datblygu a'u rhannu, safonau uwch, a rheolaeth well o'r gadwyn gyflenwi ar draws cwmnïau logistaidd a phorthladdoedd cynwysyddion ledled y byd.

"Mae'r negeseuon allweddol yn cynnwys yr angen i weithredwyr adolygu eu systemau iechyd a diogelwch, yn enwedig sut caiff eu gweithwyr sy'n gontractwyr eu rheoli, sut maent yn sicrhau lles pobl, a sut caiff cyfraniad y gweithwyr ei hybu. Yn ogystal â helpu i osgoi anafiadau a salwch, mae rheoli cadwyn gyflenwi mewn modd effeithiol yn gwneud llawer o synnwyr o safbwynt busnes. Gwyddom o ganlyniad i ymchwil arall a wnaed bod teimladau cadarnhaol ynglŷn â'r gwaith o ran cynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb, a hybu teyrngarwch ymhlith cwsmeriaid a gweithwyr. Felly, mae trefniadau iechyd a diogelwch da nid yn unig yn achub bywydau, maent yn cynnal busnesau ac yn fuddsoddiad yn hytrach na chost."