Ewch i’r prif gynnwys

Olrhain olion traed daearegol Panama

6 Medi 2016

Panama Coast

Mae ar y gyffordd rhwng dau gyfandir, yn gwahanu dau gefnfor anferth ac yn cael effaith sylweddol ar gerhyntau cefnforol byd-eang a'r hinsawdd ar draws hemisffer y Gogledd.

Serch hynny, ychydig a wyddom am hanes Isthmus Panama, y llain fechan hon o dir rhwng Gogledd a De America, sydd wedi dylanwadu ar ffurf bresennol y Ddaear.

Mewn anerchiad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni, bydd Dr David Buchs, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, yn datgelu sut mae ei dîm yn cynnal archwiliadau manwl o dirweddau Panama a Colombia i egluro sut a pham yr ymffurfiodd Isthmus Panama dros 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn benodol, bydd Dr Buchs yn esbonio sut mae’r tîm yn rhoi hanes Isthmus Panama at ei gilydd drwy astudio sut mae tectoneg platiau a folcanigrwydd wedi effeithio ar y rhanbarth, sy’n dal heb ei archwilio i raddau helaeth oherwydd y llystyfiant trwchus.

Mae data daearegol newydd wedi awgrymu bod ymffurfiad Isthmus Panama yn fwy cymhleth nag y tybiwyd o'r blaen, ac mae gwaith arsylwi rhagarweiniol Dr Buchs a'i dîm eisoes wedi datgelu cylchfeydd ffawtio oedd heb eu nodi a llosgfynyddoedd hynafol mewn sawl rhan o'r rhanbarth.

"Byddai ein byd yn sicr yn wahanol iawn pe na bai Isthmus Panama wedi ymffurfio. Ni fyddai’r Môr Tawel a Môr Iwerydd wedi cael eu gwahanu gan bont o dir, ac felly byddai llifeiriant helaeth o ddŵr wedi gallu llifo rhwng cyfandiroedd America, a fyddai mae'n debyg wedi amharu ar sefydlu’r hinsawdd yr ydym ni’n gyfarwydd â hi heddiw."

Dr David Buchs Lecturer

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Dr Buchs: "Yn ogystal, byddai ffawna daearol yng Ngogledd a De America yn dal yn ynysig, heb fedru symud yn rhwydd o un cyfandir i’r llall. Mae hon yn sefyllfa mewn gwrthgyferbyniad trawiadol i’r ecosystemau yr ydym yn gyfarwydd â hwy heddiw ar gyfandiroedd America.

"Mae arwyddocâd amlddisgyblaeth mawr, felly, i sut a pham ymffurfiodd Isthmus Panama ac edrychwn ymlaen at rannu ein canfyddiadau a'n profiadau hyd yma gyda'r cyhoedd yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain."

Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, a gynhelir yn Abertawe o 6-9 Medi, yw digwyddiad cenedlaethol mwyaf hirsefydlog Ewrop, ac mae’n rhoi cyfle i bobl ddod i gysylltiad â gwyddonwyr, peirianwyr, technolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol.

Cynhelir anerchiad Dr David Buchs, 'Olrhain olion traed daearegol Panama’ ddydd Mercher 7 Medi o 12:00 – 13:00 yn Narlithfa L, Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe.