Ewch i’r prif gynnwys

Triniaeth newydd bosibl ar gyfer caethiwed i gocên

31 Awst 2016

Cocaine

Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi darganfod triniaeth gyffuriau addawol newydd ar gyfer caethiwed i gocên.

Mae’r driniaeth arbrofol, sy’n cynnwys rhoi cyffur a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn treialon therapi canser, yn trin caethiwed i gocên drwy atal atgofion sy’n gyfrifol am deimladau o flys.

Dywedodd yr Athro Riccardo Brambilla o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Rydym ni wedi dangos bod un dogn o gyffur treial gan y cwmni fferyllol Pfizer yn gallu dileu’r atgofion sy’n ymwneud â chocên yn llwyr a dod ag ymddygiad ceisio cyffuriau i ben mewn anifeiliaid yn gyflymach o lawer. Gan fod y cyffur hwn yn cael ei ddefnyddio mewn treialon canser ar hyn o bryd, byddai’n hawdd ei ailosod ar gyfer trin caethiwed i gocên a chyffuriau eraill a gaiff eu cam-drin.”

Mae cocên yn cynhyrchu effeithiau caethiwus yn rhannol drwy weithredu ar system limbig yr ymennydd – set o rannau cyd-gysylltiedig sy’n rheoleiddio pleser a chymhelliant. Pan fydd unigolyn yn defnyddio cocên, caiff atgofion am y pleser dwys a deimlir a’r pethau sy’n gysylltiedig â’r pleser hwnnw eu creu o’r newydd. Mae’r atgofion hirymarhous hyn a chiwiau’n gysylltiedig â chyffuriau’n allweddol wrth drawsnewid o gymryd cyffuriau fel gweithgaredd hamdden i’w defnyddio drwy raid, a’r rhain sy’n cael eu rhwystro mewn profion ar lygod.

Ychwanegodd Dr Stefania Fasano o Brifysgol Caerdydd, “Gyda thua miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi cymryd cyffur Dosbarth A mewn blynyddoedd diweddar, a chyda defnydd o gyffuriau ar gynnydd ar hyn o bryd, mae galw mawr am driniaethau newydd sy’n torri ymddygiad caethiwus. Gallai cyffur pwerus gan Pfizer, sydd eisoes wedi’i ddilysu ar gyfer pobl, gyflymu datblygiad clinigol ein canfyddiadau”.

Cyhoeddir yr ymchwil yn y cyfnodolyn eLife.