Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan flaenllaw yn sicrhau adnewyddiad cyllid

13 Awst 2014

Flagship centre secures funding renewal

Bydd adnewyddu cyllid ar gyfer canolfan ymchwil fwyaf blaenllaw Cymru sy'n ymchwilio i eneteg afiechyd meddwl yn helpu i 'fagu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o safon fyd-eang', yn ôl yr Athro Syr Michael Owen o Brifysgol Caerdydd.

Mae canolfan fwyaf blaenllaw'r Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghymru, sef Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG), sydd wedi'i lleoli yn Adeilad Hadyn Ellis blaenllaw'r Brifysgol, wedi sicrhau cyllid ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.

Agorwyd Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn swyddogol yn 2009 gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, ac mae'n gartref i rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd sy'n ymchwilio i anhwylderau seiciatrig fel anhwylder deubegwn a sgitsoffrenia, ac anhwylderau niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson.

"Rydym yn falch o fod wedi sicrhau adnewyddiad cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i barhau â'n gwaith hanfodol. Mae hyn yn bleidlais o ffydd yn y gwaith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn, a'r gwaith rydym yn ei wneud i helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o safon fyd-eang" yn ôl Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Syr Michael Owen.

"Rydym yn defnyddio'r datblygiadau diweddaraf mewn geneteg i ddeall beth sy'n rhoi pobl mewn perygl o anhwylderau ar yr ymennydd, cyn defnyddio'r epidemioleg a'r niwrowyddoniaeth flaenaf i weithio allan yn union sut mae genynnau'n effeithio ar y modd y mae'r ymennydd yn gweithio.

"Yn y pen draw, bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i gronni digon o wybodaeth a llywio triniaeth newydd a gwell ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, sy'n gallu effeithio ar gymaint ag 16 miliwn o bobl yn y DU ar unrhyw adeg," ychwanegodd.

Yn ogystal â gwesteia rhai o feddyliau gorau'r byd, un o elfennau allweddol gwaith Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yw cynorthwyo a meithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

Mae bwrsariaethau gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a Phrifysgol Caerdydd yn darparu'r modd i'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ifanc ddatblygu ffyrdd newydd arloesol o drin a gwneud diagnosis o anhwylderau iechyd meddwl ar gyfer y dyfodol.

"Mae gallu annog, cefnogi a meithrin yn hanfodol os ydym am gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o safon fyd-eang yma yng Nghaerdydd," ychwanegodd yr Athro Owen.

Un myfyriwr sydd eisoes yn cael budd o fod yn rhan o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yw Katie Swaden Lewis o Ferthyr.

Mae Katie yn fyfyriwr PhD yn ei hail flwyddyn yn y ganolfan yn astudio anhwylder deubegwn.

"Dw i'n ymchwilio i effeithiau cwsg ar anhwylder deubegwn. Yn benodol, dw i'n edrych ar b'un a gellid defnyddio newidiadau i batrymau cysgu fel arwydd cynnar o'r symptomau," esbonia Katie.

"Dw i'n gofyn i wirfoddolwyr wisgo oriorau arbennig, yn debyg i'r bandiau llawes y mae llawer o bobl yn eu defnyddio wrth wneud ymarfer corff, i fesur eu patrymau cysgu.

"Dw i hefyd yn bwriadu edrych ar baru'r wybodaeth dw i wedi'i chasglu am batrymau cysgu pobl â'u data genetig, er mwyn i ni allu gweithio allan pa unigolion sy'n sensitif i golli cwsg a deall pa ffactorau genetig a all fod ynghlwm."

"Gall fy nghanfyddiadau arwain at ffyrdd o ddefnyddio technoleg bresennol i fonitro cwsg a rhoi gwybod i bobl ag anhwylder deubegwn pryd y gallant fod mewn perygl o ailwaelu, yn enwedig y rhai sydd â thuedd genetig o golli cwsg. Gellid eu defnyddio hefyd i roi cyngor arnynt ar beth i'w wneud nesaf, neu roi gwybod i weithwyr meddygol proffesiynol neu ofalwyr hyd yn oed," mae'n ychwanegu.

Mae Katie yn credu bod y cymorth a'r cyfleusterau sy'n cael eu darparu gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn hanfodol i'w gwaith, ac i ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer gwneud diagnosis a thrin anhwylderau iechyd meddwl.

Mae Katie yn ychwanegu: "Mae bod yn rhan o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghaerdydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'm gwaith a'm gyrfa. Yn amlwg, heblaw am ariannu fy ngwaith ymchwil, mae wedi fy ngalluogi i fanteisio ar yr holl offer ac adnoddau sydd eu hangen arnaf, a gallaf fanteisio ar y ffaith fod cymaint o ymchwilwyr mewn meysydd gwahanol yn gweithio dan yr un to, gan gynnwys rhai arbenigwyr sy'n enwog ledled y byd. Dw i'n credu bod gallu manteisio ar y safbwyntiau gwahanol hynny wir yn gwella ansawdd yr hyn rydym yn ei wneud."

Yn ogystal ag ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel a datblygu eu gyrfaoedd eu hunain, mae Katie a llawer o fyfyrwyr PhD eraill y ganolfan hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd i helpu i annog eraill i mewn i wyddoniaeth.

Mae Katie yn ychwanegu: "Dw i wedi gwirfoddoli yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, a oedd yn cynnwys siarad â phobl ifanc am Elsie Widdowson, sef gwyddonydd yn yr Ail Ryfel Byd a ymchwiliodd i effeithiau dogni bwyd ac a sefydlodd lawer o'r hyn rydym yn ei wybod am faetheg heddiw.

"Roeddwn i'n meddwl bod hyn yn ffordd wych i ddangos i ferched ifanc y gall merched wneud gwaith arloesol hefyd, er bod dynion wedi cael lle blaenllaw mewn gwyddoniaeth yn draddodiadol. Eleni, byddaf hefyd yn cymryd rhan yn yr "Her Gwyddorau Bywyd", sef cystadleuaeth cwis gwyddoniaeth i fyfyrwyr Blwyddyn 10.

Ychwanegodd: "Mae'n bwysig ein bod yn ymgysylltu â phobl ifanc am y gwyddorau, gan mai nhw fydd y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn symud ein gwaith ymlaen i'r lefel nesaf, ac yn newid bywydau pobl er gwell yn y dyfodol, gyda lwc."