Ewch i’r prif gynnwys

Ymaddasu hinsawdd

31 Awst 2016

Flooding

Mae dulliau lleol yn y DU o ymdrin ag ymaddasu i'r hinsawdd yn fwy adweithiol na rhagweithiol, gan effeithio’n ddifrifol ar adnoddau lleol i gynllunio ar gyfer effeithiau hinsawdd yn y dyfodol, yn ôl ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan Dr Andrew Kythreotis, yr Athro Paul Milbourne a'r Athro Terry Marsden o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ynghyd â Dr Theresa Mercer, Prifysgol Cranfield, yn archwilio sut mae ymaddasu trawsnewidiol i newid yn yr hinsawdd – fel y mae wedi ei fframio ar y lefel ryngwladol gan yr IPCC – yn cael ei thrin gan lunwyr polisi lleol yn y DU.

Mae ymaddasu trawsnewidiol yn cydnabod bod angen newidiadau sylfaenol o fewn ac ar draws systemau i ymateb yn briodol i effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Ariannwyd yr astudiaeth gan y Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol, a chanfu nad yw’r ffordd y mae ymaddasu trawsnewidiol wedi’i fframio ar gyfer llunwyr polisi gan yr IPCC yn adlewyrchu realiti ymarferol disgwrs ymaddasu lleol yn y DU. Canfuwyd bod disgwrs ymaddasu lleol y DU wedi’i nodweddu gan gynnwys cynllunio ymaddasu mewn fframwaith 'gwydnwch' sy’n blaenoriaethu twf.

Dywedodd Dr Kythreotis, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth: "Trwy ganolbwyntio ar wydnwch, mae awdurdodau lleol yn y DU wedi gallu dal rhwydwaith ehangach o randdeiliaid ar y lefel leol, gan gynnwys busnesau lleol. Fodd bynnag, canlyniad hyn yw bod ymatebion ymaddasu lleol wedi tueddu i gael eu fframio o fewn blaenoriaethau lleol mwy uniongyrchol fel datblygiad a thwf economaidd ac ymatebion tymor byr i effeithiau hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ymatebion ymaddasu hinsawdd lleol sy’n adweithiol yn hytrach na rhagweithiol, gan leihau capasiti lleol i gynllunio ar gyfer effeithiau hinsawdd tymor hir yn y dyfodol yn ddifrifol.

"Yn y DU mae angen i ymaddasu fframweithiau polisi cenedlaethol gael ei fframio o fewn model gwahanol i 'dwf' er mwyn osgoi gweld ymaddasu trawsnewidiol yn lleol fel cyfle ar gyfer datblygu economaidd yn unig."

Roedd canfyddiadau'r astudiaeth yn seiliedig ar gyfweliadau gyda rhanddeiliaid polisi a llywodraethu sy'n gweithio ar faterion ymaddasu i’r hinsawdd ar draws nifer o ddinasoedd y DU mewn rhanbarthau datganoledig (Glasgow, Hull, Caerdydd, Caeredin, Efrog, Leeds a Llundain) yn ystod haf 2014.

Mae prif argymhellion pellach yr ymchwil yn cynnwys:

  • Mae angen i fframweithiau statudol cenedlaethol (e.e. Deddf Newid Hinsawdd 2008 a Deddf Lleoliaeth 2011) fynd hyd yn oed ymhellach wrth ddarparu fframwaith rheoleiddio lleol cryfach ar gyfer ymaddasu i’r hinsawdd leol yn y tymor hir. Ar hyn o bryd, o ran cynllunio tymor hir ymaddasu, maent yn cynnig cyfle yn unig i awdurdodau lleol wneud newidiadau yn hytrach na’u gwneud yn statudol ofynnol.
  • Er mwyn sicrhau dull trawsnewidiol o ymdrin ag ymaddasu i'r hinsawdd fel mae’r IPCC wedi’i fframio, dylai'r cyfrifoldeb am newid yn yr hinsawdd ar lefel llywodraeth genedlaethol ddod o un adran, nid un adran yn edrych ar ôl lliniaru ac ynni ac un arall yn edrych ar ôl ymaddasu. Nid yw ymaddasu a lliniaru yn annibynnol ar ei gilydd.
  • Ni ddylai dulliau lleol o ymdrin ag ymaddasu i newid yn yr hinsawdd gynnwys taflu arian at broblemau isadeiledd ar raddfa fawr yn unig (h.y. amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi’u peiriannu’n galed ar raddfa fawr) fel ymateb ymaddasu adweithiol. Mae angen i wariant fod yn fwy cydnaws â chyd-destunau gwleidyddol-gymdeithasol ac amgylcheddol lleol, felly pan fydd effeithiau sy'n gysylltiedig â hinsawdd fel llifogydd yn digwydd, mae cymunedau wedi paratoi’n well i gyfyngu ar ddifrod posibl.
  • Mae angen i’r ffordd y mae gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd yn cael ei throsi i mewn i bolisi sicrhau gwerthfawrogiad ehangach o wahanol ddisgyblaethau academaidd ac nid hyrwyddo ymatebion gwirioneddol a thechnegol sefydlog yn unig (e.e. Mae Protocol Kyoto yn dibynnu ar wybodaeth dechnegol benodol i gyfyngu yn fympwyol ar dymereddau byd eang) sy’n gallu gosod terfynau ar newid trawsnewidiol.

Ychwanegodd Dr Kythreotis: "Mae deddfwriaeth y DU, fel Deddf Newid Hinsawdd 2008 a Deddf Lleoliaeth 2011, wedi dod ymhell i roi mwy o ryddid i awdurdodau lleol i hyrwyddo cynnydd mewn gweithredu ar ymaddasu i’r hinsawdd. Fodd bynnag, mae canlyniadau'r ymchwil hwn yn dangos bod angen gwneud mwy gan lywodraeth ganolog i sicrhau nad yw ymaddasu’n cael ei roi i’r neilltu o blaid gostwng allyriadau carbon a mwy o sicrwydd ynni – bellach mae ymaddasu yn realiti polisi lleol pwysig yn ei rinwedd ei hun, fel y mae’r ddegawd ddiwethaf wedi dangos.

"Hefyd mae angen i ddeddfwriaeth sicrhau y gall awdurdodau lleol gynllunio’n statudol ar gyfer effeithiau hinsawdd mwy tymor hir ac nid ymateb i effeithiau wrth iddynt ddigwydd yn unig. Er mwyn i ymaddasu trawsnewidiol lleol ddod yn realiti ymarferol, ceir gofyniad bod gwyddonwyr, llywodraeth, llunwyr polisi a chymunedau lleol yn gweithio'n agosach â'i gilydd wrth ddatblygu fframweithiau ymaddasu sy’n benodol yn lleol. Mae angen i fframweithiau o'r fath gymryd i ystyriaeth cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol lleol, yn ogystal â thystiolaeth wyddonol sefydledig sydd wedi’i fframio yn fyd-eang ar newid yn yr hinsawdd, o ran cynllunio’r hinsawdd yn y dyfodol yn ein cymunedau."