Ewch i’r prif gynnwys

Dychryn am eich bywyd

25 Awst 2016

Crow

Caiff ffilm yr awdur a'r darlithydd o Brifysgol Caerdydd, Tim Rhys, ei dangos am y tro cyntaf erioed yr haf hwn yng ngŵyl ffilmiau genre fwyaf y DU.

Mae Crow ymhlith nifer dethol o ffilmiau o'r DU ar gyfer FrightFest 2016. Mae'r ŵyl ryngwladol, a gynhelir yn Llundain, yn dangos 70 o ffilmiau wedi'u dewis o blith miloedd o geisiadau ledled y byd.

Ac yntau'n gweithio ar ffilm gyffrous, gothig, seicolegol newydd, dywed Tim: "Mae hi wedi bod yn dipyn o daith, yn gwylio'r cymeriadau y gwnes i eu dyfeisio'n dod yn fyw, yn enwedig gyda chast a chyfarwyddwr mor wych.

"Mae'n ardderchog gweld y diwydiant creadigol yng Nghymru'n gweithio ar brosiectau o'u dechrau i'r diwedd fel hyn. Mae gennym gymaint o dalent ar bob lefel. Mae hefyd yn bleser o'r mwyaf gallu meithrin awduron newydd ar y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd."

Addasiad yw Crow o ddrama lwyfan wreiddiol Tim Rhys, Stone The Crows. Bu Tim yn rhan o'r gwaith ysgrifennu ar ei gyfer, ac fe'i cynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr Wyndham Price, ac mae Nick Moran o Lock, Stock & Two Smoking Barrels ymhlith y cast. Yr actor talentog o Gymru, Tom Rhys Harries, yw'r prif gymeriad ac mae Nick Moran, Andrew Howard (Taken 3), Elen Rhys (World War Z), Danny Web (Alien 3) a Terence Stamp ymhlith yr actorion nodedig eraill. Fe'i cynhyrchwyd gan y cwmni Spinning Head Films o Gaerdydd.

Ar ôl dechrau ei fywyd ymysg llwyth crwydrol y tu allan i gymdeithas, mae Crow yn ymgartrefu mewn coedwig. Mae'r llwyth yn cael eu gorfodi i symud yn dilyn cyrch gan yr heddlu ac wedyn gan gangsters, cyn cael eu symud eto mewn modd creulon gan Tucker, sy'n ddatblygwr didrugaredd.  Mae gan Tucker ei lygad ar y goedwig hefyd erbyn hyn, ac nid yw am adael i neb ei rwystro.

Bydd dangosiad cyntaf erioed Crow ddydd Sul 28 Awst yn Sinema Vue, Shepherd's Bush Green yn rhan o Frightfest.

Mae Tim Rhys yn addysgu Ysgrifennu Creadigol ynghyd ag awduron cyhoeddedig eraill yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.