Ewch i’r prif gynnwys

Yr Argyfwng Mudo yn Ewrop

24 Awst 2016

Refugee Crisis

Bydd academyddion o'r DU a chyfandir Ewrop yn trin a thrafod un o'r materion cymdeithasol a pholisi pwysicaf sy'n wynebu'r DU, sef yr argyfwng mudo yn Ewrop, mewn symposiwm yng Nghaerdydd.

Cynhelir cynhadledd Yr Argyfwng Mudo yn Ewrop ar 30-31 Awst 2016, ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Astudiaethau Seicolegol a Materion Cymdeithasol.

Bydd yn gyfle i seicolegwyr cymdeithasol ac arbenigwyr polisi ddod ynghyd i drafod materion megis sut y caiff mudwyr a chwilwyr lloches eu cynrychioli yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau ymhlith y cyhoedd, a sut mae ffoaduriaid yn ymdoddi i gymdeithas.

Traddodir y prif ddarlithoedd gan yr Athro Batja Mesquita, Athro mewn Seicoleg yn KU Leuven, Gwlad Belg, a'r Athro Steve Reicher, Athro mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol St Andrews.

Dywedodd yr Athro Antony Manstead, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac aelod o Bwyllgor Llywio'r Gymdeithas, a fu wrthi'n cyd-drefnu'r gynhadledd: "Ar hyn o bryd, mae Ewrop yn wynebu'r symudiad mwyaf o bobl o wlad i wlad ers 1945, felly mae'n amserol ac yn bwysig bod y gynhadledd hon yn cael ei chynnal.

"Yn rhan o raglen y gynhadledd, trafodir effaith gymdeithasol a seicolegol yr argyfwng, ac ystyrir y materion cymdeithasol a pholisi sy'n wynebu'r DU yn yr hinsawdd sydd ohoni."

Bydd y pynciau trafod o dan sylw yn y symposiwm yn cynnwys sut mae'r wasg yn cyfleu'r argyfwng mudo yn y DU, Sbaen, yr Eidal, Sweden a'r Almaen; rôl addysg wrth leihau rhagfarn tuag at fewnfudwyr; a sut mae plant Prydeinig sy'n hanu o deuluoedd mewnfudwyr yn addasu'n seicolegol.

Noda'r Athro Dominic Abrams, Athro ym Mhrifysgol Caint ac aelod o Bwyllgor Llywio'r Gymdeithas, bod: "Y Gymdeithas yn un ar gyfer Astudiaethau Seicolegol a Materion Cymdeithasol. Mae'n rhan o'r Gymdeithas Seicolegol Americanaidd a'i bod yn endid rhyngwladol ynddi ei hun. Mae gan aelodau'r Gymdeithas yr un diddordeb mewn rhannu'r wybodaeth seicolegol orau ar faterion cymdeithasol o bwys ag asiantau polisi dylanwadol mewn mannau pwysig, gan gynnwys y llywodraeth. Mae'r Gymdeithas yn y DU yn ddatblygiad newydd o dan nawdd y Gymdeithas ar lefel ryngwladol, a'r nod yw pwysleisio'r ymrwymiad at ryngwladoli a chroesawu cyfraniad sylweddol gwaith ymchwil seicolegol y DU yn ehangach yn rhyngwladol."

Cefnogir y gynhadledd gan Ysgolion y Gwyddorau Cymdeithasol a Seicoleg y Brifysgol. Gallwch gadw lle yn y gynhadledd ar http://spssiuk-cardiffuni.eventbrite.co.uk unrhyw bryd cyn 26 Awst 2016.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y Gymdeithas a sut gallwch chi gymryd rhan, ewch i www.spssi.uk neu anfonwch neges ebost at spssiuk@spssi.org.