Ewch i’r prif gynnwys

Lefelau boddhad cyffredinol yn parhau'n uchel

22 Awst 2016

Image of four students on campus

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi cofnodi sgôr o 89% am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) 2016.

Cyhoeddir arolwg NSS yn flynyddol, ac mae'n gofyn i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol mewn gwahanol feysydd thematig gan gynnwys addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.

Eleni, sgoriodd yr Ysgol yn uchel yn y mannau canlynol:

  • Mae’r staff yn esbonio pethau’n dda (100% yn cytuno)
  • Mae’r cwrs wedi ei drefnu’n dda ac yn rhedeg yn esmwyth (96% yn cytuno)
  • Mae’r cwrs yn ysgogi’r deall (96% yn cytuno)

Derbyniodd yr Ysgol ganlyniadau uchel mewn tri maes thematig allweddol - addysgu (94%), trefniadau a rheoli (90%) a datblygiad personol (90%).

Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae canlyniadau arolwg NSS yn hollbwysig gan eu bod yn cynrychioli barn go iawn ein myfyrwyr. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol a bugeiliol rhagorol i bob myfyriwr ac rydym yn cymryd eu hadborth o ddifrif.

“Mae'n galonogol i weld lefelau boddhad uchel mewn nifer o feysydd a byddwn yn gweithio i gynnal a gwella'r rhain. Er gwaethaf canlyniadau cryf yn gyffredinol, mae’n amlwg bod yna feysydd lle mae angen ein sylw a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'n myfyrwyr er mwyn codi lefelau boddhad.”

Mae boddhad ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uchel (87%) gan gadarnhau ei statws fel un o'r goreuon yn y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.