Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-weinidog yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd

24 Awst 2016

Leighton Andrews
© Natasha Hirst

Mae cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, ar fin ymgymryd â rôl newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn atgyfnerthu statws y Brifysgol fel sefydliad sydd ar flaen y gad o safbwynt ymchwil ym maes arwain ac arloesi gwasanaeth cyhoeddus.

Yn rhinwedd ei swydd fel Athro Ymarfer mewn Arwain ac Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd, bydd Leighton yn arwain gweithgareddau academaidd ac ymgysylltu sy'n ymwneud â'r maes hwn.  Bydd yn cyfrannu at ddarpariaeth addysg yr Ysgol ym maes arwain ac arloesi gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Leighton: "Mae'n bleser gen i ymuno â'r tîm talentog ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at ymchwil ac addysgu ar draws amrywiaeth o bynciau academaidd, gan dynnu ar fy mhrofiad a fy ngwaith ymchwil blaenorol. Mae modd ehangu addysgu ac ymchwil ym meysydd arwain ac arloesi gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol, yn ogystal ag astudiaethau llywodraethu a pholisi datganoli."

Roedd Leighton yn Aelod Cynulliad rhwng 2003 a 2016, ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n Ddirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ystod ei yrfa, mae hefyd wedi bod yn bennaeth materion cyhoeddus i'r BBC yn Llundain, yn gyfrifol am berthynas y BBC gyda San Steffan a Brwsel, ac yn ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol, lle mae wedi bod yn athro anrhydeddus ers 2004. Mae hefyd wedi rheoli nifer o fusnesau ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, yn ogystal â sefydlu ei fusnes ei hun cyn ei werthu ym 1999. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr, sef Ministering to Education (Parthian, 2014) ac Wales Says Yes (Seren, 1999). Mae hefyd wedi ysgrifennu erthyglau a phenodau a adolygwyd gan gymheiriaid ar gyfer cyfnodolion academaidd a llyfrau.

Meddai'r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae Leighton yn ymuno ag Ysgol Busnes Caerdydd gyda chyfoeth o brofiad ac arbenigedd ym maes llywodraethu, polisïau a datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd ei benodiad yn helpu i gryfhau ein cyfadran amryddawn ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i'r Brifysgol."

Bydd Leighton yn dechrau ei swydd yn y Brifysgol ym mis Medi 2016 am gyfnod o dair blynedd.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cael ei chydnabod yn eang fel un o’r ysgolion busnes a rheoli mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i wella amodau cymdeithasol ac economaidd drwy fynd i'r afael â heriau mawr mewn ffyrdd newydd a rhyng-ddisgyblaethol. Mae hefyd yr ysgol busnes gyntaf yn y byd i roi gwerth cyhoeddus wrth wraidd ei gweithrediadau.