Ewch i’r prif gynnwys

Profiad o gynllunio iaith

16 Awst 2016

Taiwan Scene

Mae dirprwyaeth o Daiwan sy'n ceisio hyrwyddo a chynyddu'r nifer sy'n siarad yr iaith Hakka, wedi dysgu rhagor am waith y Brifysgol o ran adfywio'r iaith Gymraeg.

Wrth ymweld ag Ysgol y Gymraeg, cafodd grŵp o dan arweiniad Yung Te Lee, Gweinidog Cyngor Materion yr Hakka yn Nhaiwan, y cyfle i gwrdd â'r Athro Sioned Davies, Pennaeth yr Ysgol, a'i chydweithwyr i rannu profiadau o adfywio iaith.

Y cyngor hwn yw'r awdurdod canolog sy'n gyfrifol am faterion yr iaith Hakka yn Nhaiwan  Ei nod yw gwarchod a hyrwyddo diwylliant Hakka ac adfywio'r iaith.

Mae Ysgol y Gymraeg ar flaen y gad o ran ei hymchwil ym meysydd cynllunio'r iaith Gymraeg, tafodieitheg y Gymraeg, a chaffael y Gymraeg.  Mae ei gwaith arloesol ym maes cynllunio iaith wedi dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru a gwaith Comisiynydd y Gymraeg.

Meddai’r Athro Davies: "Pleser o'r mwyaf oedd croesawu dirprwyaeth o Daiwan i Ysgol y Gymraeg. Buom yn trafod yr heriau y mae iaith a diwylliant Hakka yn eu hwynebu, ac roedd llawer ohonynt yn gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru.

"Mae ymchwil yr Ysgol ym meysydd cynllunio a pholisïau iaith eisoes wedi cael cryn lwyddiant, gan effeithio ar bolisïau deddfwriaethol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

"Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein perthynas gyda Chyngor Materion yr Hakka a rhannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth, yn ogystal â dysgu rhagor am sefyllfa unigryw yr iaith Hakka yn Nhaiwan."