Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnod 'tyngedfennol i deledu yng Nghymru

1 Awst 2016

Video camera

Trafodaeth gan y Brifysgol yn yr Eisteddfod yn holi 'ydy'r oes ddarlledu draddodiadol yn dirwyn i ben?'

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal trafodaeth bwysig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i holi a all teledu traddodiadol oroesi wrth i arferion gwylio'r genedl droi'n fwyfwy digidol.

Bydd y drafodaeth - Tynged Teledu: ydy'r oes ddarlledu yn dirwyn i ben? - yn cael ei chynnal rhwng 1 a 2 o’r gloch brynhawn Llun, 1 Awst ym mhabell Prifysgol Caerdydd.

Y Gyflwynwraig a Chyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis Cymru, Angharad Mair, fydd yn cadeirio'r drafodaeth, a bydd unigolion blaenllaw o’r diwydiant yn cymryd rhan, gan gynnwys:

  • Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, sy'n gyfrifol am ddarlledu
  • Rhys Evans, Pennaeth Strategaeth a Gwasanaethau Digidol, BBC Cymru
  • Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
  • Huw Rossiter, Rheolwr Materion Cyhoeddus ITV Cymru
  • Liz Saville Roberts AS, Pwyllgor Materion Cymreig

Cynhelir y drafodaeth hon ar adeg tyngedfennol i ddarlledu gan fod Llywodraeth y DU yn trawsnewid y BBC ac yn cynnal arolwg annibynnol ynghylch S4C yn 2017.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Alun Davies AC, y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddarlledu, y bydd corff annibynnol newydd yn cael ei sefydlu i gynghori ynghylch dyfodol y cyfryngau a darlledu yng Nghymru.

Dywedodd Mr Davies: "Y cwestiwn sy'n wynebu darlledwyr yw sut y gellir ymdopi â'r newidiadau hyn sy'n achosi straen enfawr ar adnoddau a strategaethau buddsoddi. Nid oes un ateb hawdd i'r cwestiwn hwn, ond rhaid iddynt fod yn driw i’w gwylwyr hŷn a'u harferion hwy, yn ogystal â chadw pethau'n gyfoes ar gyfer pobl ifanc a thechnoleg, sy'n newid yn barhaus.

“Bydd penderfyniadau hollbwysig yn cael eu gwneud ynghylch darlledu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf; rydym yn cymryd rhan yn y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt am Siarter newydd y BBC yn parhau, heb anghofio, wrth gwrs, yr arolwg annibynnol o S4C yn 2017."

Dywedodd Pennaeth Strategaeth a Gwasanaethau Digidol BBC Cymru, Rhys Evans, fod darlledwyr yn wynebu "corwynt" o newidiadau.

Fodd bynnag, ychwanegodd y gallai teledu traddodiadol barhau i fod yn hynod boblogaidd a dod â chymunedau ynghyd mewn ffordd unigryw, Amlygwyd hynny gan y cynulleidfaoedd uchaf erioed a wyliodd gemau Cymru yn Ewro 2016.

Meddai, "Rydym ar groesffordd dyngedfennol, ac un o’r cwestiynau sylfaenol y mae’n rhaid i bob darlledwr ei ateb yw sut gallwn ddiwallu anghenion a disgwyliadau amrywiol cynulleidfaoedd ar draws gwahanol gyfryngau uniongyrchol a digidol."

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, y byddai arolwg Llywodraeth y DU ynghylch y darlledwr yn canolbwyntio ar ei gylch gorchwyl, y trefniadau ariannu a’r strwythurau llywodraethu, a “bydd hyn, gyda lwc, yn rhoi sylfaen i'r gwasanaeth ar gyfer y 10 i 20 mlynedd nesaf".

"Fel rhan o hyn bydd angen iddo ystyried y math o wasanaeth aml-gyfrwng y bydd ei angen ar siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol," meddai.

"Mae'n bwysig ein bod yn ceisio cael digon o arian ar gyfer S4C i alluogi’r sianel i barhau i ddarparu cynnwys o safon ar ystod o lwyfannau poblogaidd. Rhaid i ni hefyd ddiogelu ei hannibyniaeth er mwyn iddi allu parhau i flaenoriaethu cynnwys Cymraeg."

Ychwanegodd fod datblygiadau digidol ynghyd â newidiadau mewn arferion gwylio wedi cynnig "llawer mwy o gyfleoedd" i S4C a'r iaith Gymraeg, tra bod cyfrwng y teledu yn parhau'n "rhan boblogaidd iawn o'n gwasanaeth".

Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd S4C hefyd. "Rhaid inni oll gydnabod pwysigrwydd S4C o ran ei statws a'i harwyddocâd democrataidd, a bod yn rhaid iddi addasu i'r newidiadau mewn amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd. Byddai gweld ei diddymu'n gyfystyr ag argyfwng mewn democratiaeth," meddai Mr Davies.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, sy'n aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ac sy'n gyn-ohebydd newyddion: "Mae gwylwyr teledu yng Nghymru'n ddibynnol iawn ar ddarlledwyr cyhoeddus, ond mae lefel gwariant cyhoeddus ar ddarlledu i Gymru am Gymru wedi crebachu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae perygl bod bywydau pobl, ein hanes a’n diddordebau ehangach yn cael eu hanwybyddu gan y cyfryngau, ac mae hyn yn bygwth hunaniaeth ac ymwybyddiaeth wleidyddol. Ar yr un pryd, mae datblygiadau ym maes cyfryngau digidol yn llywio newid yn ogystal â chynnig dulliau arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd â diddordeb arbennig."

Dywedodd Huw Rossiter, Rheolwr Materion Cyhoeddus ITV Cymru: "Gan mai ITV Cymru yw'r unig ddarlledwr cyhoeddus masnachol yng Nghymru, rydym yn falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth amserol hon. Mae gan y diwydiant darlledu yng Nghymru lawer i’w ymfalchïo ynddo, ac mae gan ITV rôl bwysig o ran darparu ffynhonnell ychwanegol o newyddion a rhaglenni i Gymru ar brif sianel ITV, yn ogystal â’r rhaglenni rhagorol a ddarparwn ar gyfer S4C. Fodd bynnag, mae darlledwyr cyhoeddus yn wynebu heriau yn yr oes ddigidol sydd ohoni, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at y drafodaeth adeiladol, fywiog hon ynghylch y materion o bwys a ddaw yn sgil y newidiadau hyn.

Rhannu’r stori hon