Ewch i’r prif gynnwys

Olion traed mewn Amser

28 Gorffennaf 2016

Pollen Story
A 3D pollen grain

Mae olion traed a choedwigoedd hynafol sydd wedi’u cadw ar draethlin Cymru yn taflu rhywfaint o oleuni ar gymunedau arfordirol ac yn helpu pobl ifanc i ddeall effaith newid hinsawdd.

Mae Olion Traed mewn Amser - prosiect ymgysylltu newydd gan Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd gyda’i bartneriaid Tidal Lagoon Power Ltd - yn rhoi cyfle i bobl ifanc yn Ne Cymru archwilio amgylcheddau arfordirol gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn eu hardal leol.

Drwy ymchwilio olion traed dynol go iawn a samplau paill o dirweddau sydd bellach tanddwr, gall y rhai sy’n cymryd rhan gael profiad ymarferol o fywydau pobl hynafol, a deall sut roedd ein hynafiaid yn ymdrin â lefelau’r môr yn codi.

Yn ogystal â chyfrannu at ymchwil gyfredol, bydd y bobl ifanc yn archwilio p’un a yw hanes newidiadau arfordirol yn gallu bod yn sail i’n profiadau o newid yn yr hinsawdd a sut yr ydym wedi symud o olion traed corfforol i olion troed carbon.

Bu i arweinydd y prosiect Rhiannon Philp, sydd wedi ymchwilio i effaith newid lefel y môr cynhanesyddol, egluro arwyddocâd y prosiect: “Mae Olion Traed mewn Amser yn dod ag ymchwil cyfredol y brifysgol i’r ystafell ddosbarth. Rydym am godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd – yn y gorffennol a'r presennol a’n hymatebion dynol iddo."

“Gan ddefnyddio gweithdai ymarferol, nod y prosiect yw ymgysylltu cyfranogwyr mewn pynciau nad ydynt efallai yn gwybod amdanynt eisoes ac i ddangos sut y gallai dull amlddisgyblaethol wella ein dealltwriaeth o brofiad dynol.”

Mewn cydweithrediad arloesol, mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda Dr Tony Hayes o Uned Bioddelweddu’r Brifysgol yn Ysgol y Biowyddorau i greu cynrychiolaethau cywrain 3D wedi’u hargraffu o ronynnau paill cynhanesyddol gan ddefnyddio microsgopeg sganio laser gydffocal.

Defnyddir yr argraffiadau fel teclyn ar gyfer addysgu ac ymgysylltu a byddant i’w gweld ym mhabell y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni, sydd ymlaen o 29 Gorffennaf i 6 Awst 2016.

Mae Olion Traed mewn Amser wedi’i ariannu gan Raglen Cyfnewidfa Dinas Rhanbarth Prifysgol Caerdydd, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi ymgysylltiad academyddion gydag agendâu rhanbarth dinas, a gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol ar brosiectau sy’n ceisio symud datblygiad economaidd a datblygiad cymdeithasol rhanbarthol yn ei flaen.

Mae Cyfnewidfa Dinas Rhanbarth Prifysgol Caerdydd yn rhan o Raglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.