Ewch i’r prif gynnwys

Yn anaddas i blant

20 Gorffennaf 2016

On Air

Bydd darlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg, sydd wedi'i dewis i gymryd rhan mewn cynllun arloesol i droi ei gwaith ymchwil yn ddeunydd darlledu, yn cyflwyno ac yn cyfrannu mewn cyfres o raglenni drwy gydol yr haf.

Mewn rhaglen ar gyfer BBC Radio 3 – Not Suitable for Children – ystyria Dr Sophie Coulombeau o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth rai o'r storïau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n gallu codi gwrychyn oedolion.

Gan drin a thrafod naratifau dadleuol i bobl ifanc dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan gynnwys rhyw yn yr arddegau, hunanladdiad a phengwiniaid hoyw, ystyriodd beth mae ein hangen cynhenid i gadw pethau’n bur yn ei ddweud am y ffordd yr ydym yn gweld plentyndod, diniweidrwydd, a'r weithred o ddarllen.

Ar 14 Awst, bydd llith gan Dr Columbeau ar enwi babanod yn ymddangos yn y gyfres Freethinking ar BBC3. Tua diwedd yr haf, mae Swyddfa’r Ystadegau Gwladol fel arfer yn cyhoeddi rhestr o'r 100 enw mwyaf poblogaidd ar gyfer babanod yng Nghymru a Lloegr - ac mae ambell enw'n siŵr o beri syndod. Nid yw hyn yn beth newydd: fel y noda Dr Columbeau, mae enwau babanod yn fodd o gyfleu pryderon ynghylch iaith, hunaniaeth a chyfrifoldeb rhieni, boed hynny yn nofel Laurence Sterne, Tristram Shandy neu yng nghân Johnny Cash, A Boy Named Sue.

Ac yn nes ymlaen yr haf hwn, bydd y darlithydd yn cynnig ei hymateb unigryw i un o broblemau'r oes hon - cyfenwau ar ôl priodi - yn y podlediad poblogaidd 'Sixty-second idea to change the world’ ar raglen BBC World Service, The Forum. Yn y podlediad, bydd yn dadlau'r achos y dylai pawb gyfuno neu gymysgu eu cyfenwau pan fyddant yn priodi.

Mae Dr Coulombeau yn aelod o grŵp nodedig o feddylwyr yr AHRC/BBC, sef y New Generation Thinkers, wedi eu dewis i droi eu syniadau arloesol yn ddeunydd darlledu penigamp.

Mae gan Dr Columbeau ddiddordebau ymchwil amrywiol sy’n cynnwys gwaith llenyddol gan fenywod y ddeunawfed ganrif ac athroniaeth enwi. Ymddangosodd mewn darllediad am y tro cyntaf fel New Generation Thinker yr AHRC/BBC yn 2014, pan holodd Is Marriage an Identity Crisis?

Dywedodd Dr Coulombeau: "Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a ddaw yn sgil cael fy newis yn New Generation Thinker.

"Rwyf wedi dysgu llawer am sut i weithio gyda chynhyrchwyr a golygyddion radio, teledu a'r cyfryngau ar-lein a sut i gyfleu fy syniadau i gynulleidfa gyhoeddus. Mae'r adborth a gaf gan ddarllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr yn amhrisiadwy, ac yn aml yn dylanwadu ar fy gwaith academaidd."

Darlledwyd Not Suitable for Children ar 17 Gorffennaf 2016. Gwrandewch eto ar y rhaglen yma.