Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyrwraig yn ennill gwobr nodedig

19 Gorffennaf 2016

Llun o Catrin Howells
Catrin Howells

Mae Catrin Howells, a astudiodd Y Gymraeg a’r Gyfraith (LLB), wedi ennill Gwobr John Davies, sef gwobr newydd a ddyfernir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Catrin, sydd o Bonterwyd ger Aberystwyth, yw'r cyntaf i dderbyn y wobr hon a grewyd i goffau'r hanesydd uchel ei barch, y diweddar Dr John Davies. Dyfarnwyd y wobr iddi am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru. Daeth ei thraethawd, yn dwyn y teitl “A yw creu Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân i Gymru bellach yn anorfod?”, i’r brig yn dilyn ystyriaeth gan banel dyfarnu a oedd yn cynnwys tri hanesydd o ystod o gefndiroedd.

Dywedodd Catrin: ‘‘Bydd yn fraint anhygoel derbyn y wobr hon, ac mae ei hennill am y tro cyntaf yn anrhydedd fawr. Roedd y Dr John Davies yn flaengar iawn yn hanes a diwylliant Cymru ac rwy’n hapus fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod ei gyfraniad. Ystyriaf hyn yn goron ar fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ac edrychaf ymlaen at gael derbyn y wobr yn ogystal â chael cyfle i ddiolch i deulu’r Dr John Davies yn y brifwyl.”

Ychwanegodd Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Hoffwn longyfarch Catrin yn wresog ar gael ei henwebu a’i dewis i dderbyn y wobr hon er cof am un o Gymry mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf a gwron a oedd mor gefnogol o waith y Coleg. Hoffwn ddiolch i deulu Dr John Davies am eu cefnogaeth i’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r panel dyfarnu am eu gwaith.’’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Dyma newyddion gwych. Rydym yn hynod falch o lwyddiant Catrin a hithau wedi bod yn fyfyrwraig ymroddedig a gweithgar. Dymunwn yn dda iddi at y dyfodol ac edrychwn ymlaen yn fawr i’w gweld yn derbyn y wobr ar faes yr Eisteddfod.”

Bydd Gwobr John Davies yn cael ei chyflwyno i Catrin Howells ar stondin y Coleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Llun 1 Awst am 2 o’r gloch.

Rhannu’r stori hon