Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan flaengar yn lansio gwefan

18 Gorffennaf 2016

BMC
Professor Judith Hall and Professor William Mapleson

Mae canolfan fodern £300,000 ar gyfer addysg glinigol a phrofi offer meddygol a enwir er anrhydedd yr Athro William Mapleson, ac sydd wedi gweithio yn anesthesia academaidd ers dros 60 mlynedd, yn lansio gwefan newydd.

Mae Canolfan Bil Mapleson (BMC) yn Aberpennar, Cwm Cynon, yn gyfleuster blaengar sy'n cynnig addysg glinigol a hyfforddiant efelychiad ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a'r diwydiant.

Bydd y wefan – www.bmc.wales – yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddysgu am waith y ganolfan yn datblygu dyfeisiau meddygol ac i gael gwybodaeth am ei chyfleusterau addysg a'r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael yno.

Dywedodd yr Athro Judith Hall, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr BMC: "Mae lansio'r wefan yn garreg filltir bwysig wrth helpu'r BMC i hyfforddi meddygon, nyrsys a deintyddion. Bydd yn atgyfnerthu enw da'r ganolfan am ragoriaeth mewn addysgu a datblygiad proffesiynol parhaus israddedig ac ôl-raddedig."

"Trwy BMC, rydym yn cynnig nid yn unig hyfforddiant ond hefyd arbenigedd ym maes dylunio, datblygu a gwerthuso pob dyfais feddygol a ddefnyddir mewn anesthesia, meddygaeth anadlol a gofal dwys."

Prifysgol Caerdydd sefydlodd BMC ac mae'n cael ei chynnal gan uwch-academyddion ac ymgynghorwyr clinigol o Adran Anesthetig, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen y Brifysgol.

Mae BMC yn cydweithio'n agos â MediWales, y GIG a'r diwydiant, yn hybu arloesedd mewn gofal iechyd, ac yn rhoi elw yn ôl i Brifysgol Caerdydd ac elusennau.

Rhannu’r stori hon