Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigydd blaenllaw ym maes datganoli yn ymuno â'r Brifysgol

18 Gorffennaf 2016

Laura McAllister

Mae un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r wlad ar ddatganoli am ddechrau rôl newydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru y Brifysgol.

Bydd Laura McAllister CBE, sy'n Athro Llywodraethiant ym Mhrifysgol Lerpwl ar hyn o bryd, yn ymuno â'r Ganolfan fis Hydref.

Mae'r Athro McAllister yn academydd blaenllaw ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth am wleidyddiaeth Cymru.

Roedd yn aelod o Gomisiwn Richard ynglŷn â Phwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Taliadau'r Cynulliad Cenedlaethol fu'n ystyried cyflogau a lwfansau'r ACau yn ogystal â'r gefnogaeth strwythurol arall a gynigir i Aelodau'r Cynulliad a'u staff.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro McAllister: "Pleser o'r mwyaf yw ymuno â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, canolbwynt arbenigedd ac ymchwil ynglŷn â datganoli a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae gan ddatganoli gryn dipyn o ffordd i fynd eto yng Nghymru o ystyried y pwerau a'r cyfrifoldebau trethu ac ariannol sydd wedi'u cyflwyno, yn ogystal â'r Bil Cymru newydd.

“Bydd yr etholiadau diweddar a'r bleidlais i adael yr UE, yn cael effaith enfawr ar wleidyddiaeth yng Nghymru.  Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r tîm yn y Ganolfan ac ychwanegu fy ymchwil newydd am lywodraethau clymblaid a lleiafrifol, pensaernïaeth fewnol y Cynulliad, gallu gwleidyddol, yn ogystal â rhywedd a gwleidyddiaeth, at ei phroffil ymchwil cynhwysfawr."

Meddai'r Athro Daniel Wincott, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd:"Mae Laura McAllister yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a hithau’n un o’r dadansoddwyr a’r sylwebwyr gwleidyddol mwyaf uchel ei pharch yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd ei bod am wella tîm sydd eisoes yn uchel ei barch ac sydd wedi ennill ei blwyf, gan atgyfnerthu statws Canolfan Llywodraethiant Cymru wrth wraidd trafodaethau gwleidyddol yng Nghymru."

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.