Ewch i’r prif gynnwys

Gallai cynnydd bychan mewn treth ar alcohol arwain at 6,000 yn llai o ymweliadau brys ag ysbytai mewn cysylltiad â thrais

12 Gorffennaf 2016

Alcohol

Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, gallai codi prisiau alcohol 1% leihau nifer yr anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â lleihau'r baich ar adrannau achosion brys sydd eisoes o dan bwysau aruthrol.

Yn ôl yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn Injury Prevention, mae nifer y bobl sy'n mynd i unedau achosion brys oherwydd achosion sy'n gysylltiedig â thrais, yn uwch pan mae prisiau alcohol yn is. Mae hefyd yn amcangyfrif y byddai 6,000 yn llai o ymweliadau ag unedau achosion brys mewn cysylltiad â thrais pe byddai prisiau alcohol a werthir mewn tafarndai, clybiau a siopau, yn codi dros 1% uwchben chwyddiant.

Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr astudiaeth:

"Er bod trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn gostwng yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, mae'n parhau i fod yn broblem fawr ac yn faich sylweddol ar wasanaethau iechyd a’n hadrannau achosion brys.
"Mae ein canfyddiadau'n awgrymu y byddai diwygio'r system bresennol o drethu ar alcohol yn fwy effeithiol na phennu isafswm fesul uned o ran lleihau anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais, ac y byddai’n arwain at ostyngiad sylweddol mewn trais ar lefel genedlaethol.

"Fodd bynnag, byddai unrhyw bolisi o'r fath yn golygu bod angen codi prisiau alcohol yn y ddwy farchnad, yn enwedig mewn lleoedd megis tafarndai a chlybiau. Gallai’r incwm ychwanegol o tua £1 biliwn a gynhyrchir drwy dreth bob blwyddyn, ar gael wedyn i'r GIG i dalu am gost y niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol."

Ledled y byd, trais rhyngbersonol oedd yr ail achos mwyaf o farwolaeth ymysg dynion ifanc 15-29 oed yn 2012, a bu’n rhaid i dros 210,000 o bobl gael gofal brys yng Nghymru a Lloegr ar gyfer anafiadau o ganlyniad i drais yn 2015.

Ystyriodd yr astudiaeth effaith prisiau alcohol mewn tafarndai a chlybiau, ac ati, ac mewn siopau sy'n gwerthu alcohol, yn ogystal â ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol, ar y gyfradd sy’n mynd i unedau achosion brys o ganlyniad i drais yng Nghymru a Lloegr.

Casglwyd data dienw am oedolion oedd wedi ymweld â 100 o unedau achosion brys ledled Cymru a Lloegr rhwng 2005 a 2012 gydag anafiadau oedd yn deillio o drais. Rhoddwyd sylw hefyd i ddata am brisiau alcohol, gwariant a ffactorau economaidd-gymdeithasol blaenllaw dros yr wyth mlynedd.

Rhwng 2005 a 2012, bu bron i 300,000 o ymweliadau gan oedolion â 100 o unedau achosion brys yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i anafiadau oedd yn deillio o drais, ac mae hyn yn cyfateb i tua 2.1m o ymweliadau i gyd. Dynion rhwng 18 a 30 oed oedd tri o bob pedwar o’r rhai a ymwelodd ag unedau achosion brys, ac roedd cyfraddau’r anafiadau bob mis dair gwaith yn uwch ymysg dynion o’u cymharu â menywod.

Gwelwyd amrywiadau rhanbarthol a thymhorol hefyd. Roedd rhagor o anafiadau yn gysylltiedig â thrais yng Nghymru ac yng ngogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Lloegr, yn ogystal ag yn ystod yr haf (Mehefin-Awst).
Yn ôl y dadansoddiad o’r data, roedd prisiau alcohol masnachol ac anfasnachol is yn gysylltiedig â niferoedd uwch o ymweliadau ag unedau achosion brys mewn cysylltiad ag alcohol, ar ôl ystyried tlodi, gwahaniaethau mewn incwm cartrefi, pŵer gwariant ac amser y flwyddyn.

Amcangyfrifir y byddai codi prisiau alcohol masnachol 1% uwchben chwyddiant, yn arwain at 4,260 yn llai o ymweliadau ag unedau achosion brys o ganlyniad i drais. Yn ogystal, gallai codi prisiau alcohol anfasnachol yn yr un modd arwain at 1,788 yn llai o ymweliadau bob blwyddyn, gan olygu y byddai tua 6,000 yn llai o ymweliadau i gyd.

Fodd bynnag, ymhlith yr holl ffactorau a astudiwyd, tlodi ac anghyfartaledd rhwng y rhai ffodus a'r anffodus oedd y rhai pwysicaf er mwyn darogan cyfraddau anafiadau oedd yn gysylltiedig â thrais. Gallai gostyngiad o 1% mewn tlodi yn ogystal â chwymp o 0.01 yn y gwahaniaeth rhwng y rhai ar frig y raddfa incwm a’r rhai ar y gwaelod, arwain at 18,000 yn llai o ymweliadau ag unedau gofal brys bob blwyddyn.

Rhaid cadw rhai ffactorau mewn cof: mae'n annhebygol y bydd data unedau gofal brys am drais yn rhoi'r darlun cyfan gan eu bod efallai'n amharod i ddatgelu achos eu hanafiadau; dim ond yr anafiadau mwyaf difrifol sy'n cael eu trin mewn unedau gofal brys; a gallai byw ger uned achosion brys gynyddu'r tebygolrwydd o'i defnyddio i gael triniaeth. Mae'r holl ffactorau hyn yn tueddu i danbrisio'r manteision a gynigir o ganlyniad i godi prisiau ryw ychydig.
At hynny, o ystyried y gyfran uchel o ddynion 18 i 30 oed sydd yn y sampl, mae'n bosibl bod y data'n cynrychioli trais ar y strydoedd yn hytrach nag achosion domestig neu fathau eraill o drais.

Cyhoeddir yr astudiaeth - Atal anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais yng Nghymru a Lloegr: astudiaeth banel sy'n ystyried effaith prisiau alcohol masnachol ac anfasnachol – yn y cyfnodolyn Injury Prevention.