Ewch i’r prif gynnwys

Graddedigion yn parhau i fod ymysg y rhai mwyaf cyflogadwy yn y DU

7 Gorffennaf 2016

Students outside the Glamorgan Building

Yn ôl ffigurau newydd, mae 94% o raddedigion Prifysgol Caerdydd naill ai mewn swydd, yn astudio, neu'n gweithio ac yn astudio, ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) am Ymadawyr Addysg Uwch, yn dangos bod 94.1% o ymadawyr gradd gyntaf amser llawn yn 2014/15 wedi'u cyflogi, yn astudio, neu'n gweithio ac yn astudio.

Er bod hynny fymryn yn is na'r llynedd (95.5%), mae'r ffigur yn dangos bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU (93.9%), Lloegr (93.8%) a Chymru (93.2%).

"Unwaith eto, mae'r ffigurau hyn yn profi bod galw mawr am raddedigion Prifysgol Caerdydd ymysg cyflogwyr, a bod ganddynt y sgiliau cywir i wneud rhagor o astudio," yn ôl y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr yn y Brifysgol, yr Athro Patricia Price.

"Rydym yn parhau'n gyson oherwydd ein gweithlu academaidd ffyddlon ac ymroddgar a'n hymrwymiad i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr ar gyfer y gweithle.

"Mae troi damcaniaeth yn gamau ymarferol a darparu profiad o fyd gwaith, yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

"Mae cyngor ar gael hefyd ynghylch lleoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion.

Ychwanegodd: "Oherwydd hynny, rydym yn parhau i fod yn uchel ein parch ymhlith cyflogwyr ac mae gan ein graddedigion gofnod cyflogaeth rhagorol wrth i fyfyrwyr ddod o hyd i waith cyflogedig neu ymgymryd â hyfforddiant pellach."

Rhannu’r stori hon