Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Athrawon Bagloriaeth Cymru

7 Gorffennaf 2016

Welsh Baccalaureate Conference

Mae dros 100 o athrawon o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer digwyddiad i geisio datblygu eu sgiliau a'u hyder wrth gyflwyno elfen newydd o Fagloriaeth Cymru.

Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol a gynhaliodd Cynhadledd Athrawon Bagloriaeth Cymru (5 Gorffennaf 2016), a dyma'r eildro i'r Brifysgol gynnal y digwyddiad.

Lluniwyd rhaglen eleni gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â CBAC ac athrawon cynghorol. Mae'n canolbwyntio ar gydran y Prosiect Unigol a Heriau Dinasyddiaeth Fyd-eang ym Magloriaeth Cymru.

Roedd cyfle gan y rhai oedd yn bresennol fynd i 4 gweithdy o dan arweiniad ymchwilwyr. Nod y gweithdai oedd ceisio cefnogi'r gwaith o gyflwyno sgiliau a gaiff eu hasesu, gan gynnwys meddwl yn feirniadol a datrys problemau.  Canolbwyntiodd y gweithdai eraill ar ddulliau ymchwil, gan gynnwys cynllunio, casglu data, setiau data a dadansoddi.

Yn ogystal â'r gweithdai, roedd cyfle hefyd i ymuno â fforwm amser cinio oedd yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau eraill sy'n ymwneud â Bagloriaeth Cymru a gynigir gan Brifysgol Caerdydd a sefydliadau partner, gan gynnwys CBAC, Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Rhys Jones, Darlithydd Dulliau Meintiol Addysg Bellach yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Yn dilyn llwyddiant y llynedd, aethom ati i greu digwyddiad sy'n diwallu anghenion athrawon a darlithwyr Bagloriaeth Cymru ledled y wlad.

"Cafwyd rhagor o weithdai eleni, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol i gefnogi'r modd y cyflwynir y cymhwyster gwerthfawr hwn. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i ni a'r sector addysg bellach/ysgolion gydweithio fel bod myfyrwyr yn barod ar gyfer addysg uwch."

Cefnogwyd y gynhadledd gan Brosiect Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd yn rhan o Raglen Bagloriaeth Cymru a ariennir gan Gynghorau Ymchwil y DU.

Yn ôl Sue Diment, Swyddog Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol: "Mae Cynhadledd Bagloriaeth Cymru yn gyfle gwych i athrawon ddysgu sgiliau newydd a chynyddu eu hyder wrth addysgu ac asesu'r Prosiect Unigol a Heriau Dinasyddiaeth Fyd-eang.   Yn yr un modd, mae'r digwyddiad yn galluogi ymchwilwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion a cholegau, rhannu eu hymchwil a'u harbenigedd, yn ogystal ag ysbrydoli athrawon i geisio codi dyheadau eu myfyrwyr a chefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr."

Meddai’r Athro Patricia Price, Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rwyf wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r cydweithio hwn wedi datblygu mor llwyddiannus dros gyfnod mor fyr. Drwy gydweithio'n agos â CBAC a staff addysgu mewn cysylltiad â'r Fagloriaeth newydd, mae Prifysgol Caerdydd yn dangos ei hymrwymiad i annog disgyblion yng Nghymru i barhau i ddatblygu eu sgiliau a helpu i'w paratoi ar gyfer profiad mewn prifysgol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant ysgubol y gynhadledd."