Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd ymysg 50 o brifysgolion mwyaf arloesol Ewrop

20 Mehefin 2016

Innovation

Mae Prifysgol Caerdydd yn safle rhif 45 ledled Ewrop, ac yn 8fed yn y DU, yng nghynghrair newydd Thomson Reuters o’r 100 prifysgol fwyaf arloesol yn Ewrop.

Mae'r gynghrair yn seiliedig ar ystod o ddata gan gynnwys papurau academaidd, ceisiadau patent, dyfyniadau diwydiannol a chydweithio diwydiannol.

Mae'n cydnabod y sefydliadau sy'n arbenigo mewn ymchwil ymarferol a gwyddoniaeth gymhwysol, gan droi rhagoriaeth ymchwil yn atebion yn y byd go iawn.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o ddyfeisio ac arloesi, adeiladu partneriaethau gyda diwydiant, creu cwmnïau deillio a busnesau newydd, a meithrin arbenigedd academaidd ac arbenigedd myfyrwyr i greu twf a ffyniant. Ni yw'r unig Brifysgol o Gymru yn y gynghrair, ac rydym yn dal ein tir yn erbyn sefydliadau technegol mawr y DU megis Manceinion a Chaeredin.

"Mae ein ystadegau yn dangos ein harloesedd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill contractau ymchwil gwerth cyfanswm o £500m. Rydym wedi ennill chwe Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, ac rydym yn 5ed yn y DU o ran trosiant tybiedig (£72m) yr holl gwmnïau busnesau newydd a sefydlwyd gan raddedigion rhwng 2008/09 a 2013/14."

Prifysgolion a Cholegau Technegol sydd amlycaf yn y gynghrair hon sy'n amlygu’r sefydliadau addysgol sy'n hyrwyddo gwyddoniaeth, dyfeisio technoleg newydd a gyrru'r economi fyd-eang.

KU Leuven yw’r brifysgol fwyaf arloesol yn Ewrop. Ysgol Iseldireg ei hiaith yw hon yn ardal Fflandrys yng Ngwlad Belg, ac mae ganddi gysylltiad agos iawn â Phrifysgol Caerdydd ers cryn amser.

Ddwy flynedd yn ôl, llofnododd y ddau sefydliad Gytundeb Cydweithredol er mwyn helpu i gynyddu incwm ymchwil, creu partneriaethau ymchwil newydd, a chynnig rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor.

Mae ymchwilwyr KU Leuven yn cyflwyno mwy o batentau na bron unrhyw brifysgol arail yn Ewrop, ac mae ymchwilwyr o bob cwr o'r byd yn cyfeirio'n gyson at arloesedd KU Leuven yn eu ceisiadau patent eu hunain.

Coleg Imperialaidd Llundain sy'n ail yn y gynghrair, ac mae 17 sefydliad arall o'r DU yn y gynghrair, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Rhannu’r stori hon