Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan gymunedol newydd yn Grangetown

16 Mehefin 2016

Grangetown Bowling Pavillion

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau bod pafiliwn bowlio segur yn Grangetown yn cael bywyd newydd fel canolfan gymunedol.

Mae prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol a’r partneriaid cymunedol Prosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown yn lansio Pafiliwn Grange fel gofod dros dro ar gyfer gweithgareddau'r Brifysgol yn y gymuned.

Mae’r pafiliwn, sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd, wedi bod yn wag ers 2014, a bellach mae gan y Brifysgol drwydded 12 mis dros dro ar ei gyfer.

Meddai Mairead Collett, sy’n byw yn Grangetown ac yn aelod o Brosiect Pafiliwn Grange: "Rydym wrth ein bodd bod caeadau a drysau’r pafiliwn yn mynd i agor ar ôl nifer o flynyddoedd.

"Mae wedi bod yn ddolur llygad yng Ngerddi Grange, wedi’i gau ac yn anhygyrch tu ôl i gatiau caeedig yn rhy hir.

"Mae wedi bod yn frwydr i gyrraedd y man lle rydym ni nawr, ond rydym ni’n gyffrous am yr adeilad a sut gall ddechrau bod yn fan cyfarfod bywiog ac yn ardd gymunedol, fel roeddem ni wedi rhagweld.”

Cynhelir y lansiad swyddogol yng Ngŵyl Grangetown ar 18 Mehefin am 12:00.

Vale College students

Mae mân welliannau wedi’u gwneud i’r adeilad i wella’i olwg ar gyfer cyfnod y drwydded dros dro, gyda chymorth N & M Construction, y Pensaer Dan Benham a myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar y gwaith adnewyddu fel rhan o'u hastudiaethau.

Mae IKEA Caerdydd hefyd wedi dangos diddordeb mawr yn y ganolfan gymunedol ac wedi cefnogi'r fenter drwy gyfrannu cegin newydd sbon.

Dywedodd John Ennis, o Goleg Caerdydd a'r Fro (CAVC): "Mae CAVC yn credu’n angerddol mewn ymgysylltu a datblygu cysylltiadau cymunedol ac roedd y prosiect hwn yn gyfle delfrydol.

"Mae'r gwaith yn y pafiliwn yn gyfle gwerthfawr i’n dysgwyr gael hyfforddiant yn y gwaith a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau bywyd go iawn a allai eu helpu i gael gwaith cyflogedig.

"Ar y cyfan mae’r dysgwyr yn cael hwyl wrth ddatblygu eu sgiliau a’u hyder drwy weithio fel tîm neu yn unigol."

Ar ddiwrnod y lansio bydd myfyrwyr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru yn arddangos rhai o'r syniadau a allai ddigwydd ar y safle.

Grange Gardens

Meddai Mhairi McVicar, Arweinydd Academaidd y Porth Cymunedol:  "Pobl o fewn y gymuned gafodd y syniad o roi bywyd newydd i’r pafiliwn, gan eu bod am gael lle canolog oedd yn hygyrch i bawb.

"Mae'n wych gweld hynny’n cael ei wireddu.  Bydd yn ased gwirioneddol ar gyfer Grangetown, ond mewn llawer o ffyrdd dechrau’n unig y mae’r gwaith.

"Y camau nesaf fydd clywed syniadau pawb ynghylch sut mae gwneud y defnydd gorau o’r adeilad yn y tymor hir, a sut mae cefnogi cynnig am Drosglwyddo Asedau Cymunedol.”

Mae gweithgareddau 'sydyn’ eisoes wedi cael eu cynnal yn y pafiliwn, gan gynnwys digwyddiad adrodd straeon, caffe athroniaeth, diwrnod iechyd meddwl a llesiant a ffair aeaf.

Y nod bellach yw sefydlu rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau dan arweiniad y gymuned a allai gynnwys gweithdai cymunedol, hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a grwpiau mam a baban, yn ogystal â digwyddiadau partneriaeth Cymuned Grangetown a Phrifysgol Caerdydd.

Bydd tîm y Porth Cymunedol wedi’u lleoli yn y pafiliwn, ochr yn ochr â Gweithredu Cymunedol Grangetown.

Meddai Ashley Lister, Ysgrifennydd Gweithredu Cymunedol Grangetown:  "Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â thîm y Porth Cymunedol ar un arall o’u prosiectau mynediad.

"Cafwyd pleser gwirioneddol o weithio gyda’r trigolion sydd wedi dod â’r prosiect hwn yn fyw.  Mae eu hymrwymiad, eu hymdrech a’u brwdfrydedd ynghylch y pafiliwn wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac wedi dangos beth gall cymuned ei gyflawni os yw’n ffocws i’r galon a’r meddwl.”

Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau. Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a llesiant.

Dylai unrhyw un sydd â syniadau ynghylch sut gellid defnyddio’r pafiliwn yn ystod y 12 mis nesaf ac yn y tymor hwy gysylltu â’r Porth Cymunedol ar communitygateway@cardiff.ac.uk neu 029 2087 0532.

Rhannu’r stori hon