Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

13 Mehefin 2016

Former Vice-Chancellor Sir David Grant

Mae cyn Is-Ganghellor y Brifysgol wedi ei urddo'n farchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Cafodd Syr David Grant CBE, FREng, FLSW, FIET, CEng, fu'n arwain y Brifysgol rhwng 2001 a 2012, ei gydnabod am ei gyfraniad helaeth ym meysydd peirianneg, technoleg ac addysg.

Bu sawl carreg filltir o bwys yn y Brifysgol o dan arweinyddiaeth Syr David, gan gynnwys creu Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, cynyddu nifer y myfyrwyr ac ennill statws Buddsoddwyr mewn Pobl - y brifysgol gyntaf yng Ngrŵp Russell i wneud hynny.

Erbyn hyn, Syr David yw cadeirydd y Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL). Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o'r Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn ac yn uwch-gyfarwyddwr annibynnol o Renishaw Plc ac IQE Plc. Ef hefyd yw Cadeirydd elusen addysgol STEMNET.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ym 1997, a chafodd CBE yn yr un flwyddyn am ei gyfraniad at raglen Foresight y DU. Roedd yn Is-Lywydd yr Academi Beirianneg Frenhinol rhwng 2007 a 2012 a bu'n aelod o'r Bwrdd Strategaeth Technoleg, sef Innovate UK erbyn hyn, rhwng 2007 a 2015. Roedd yn arfer bod yn aelod o Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol yn ogystal ag yn aelod o gyngor a Dirprwy Lywydd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Meddai'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Efallai mai uno gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru oedd ei gyfraniad pwysicaf yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Mae'r cyflawniad sylweddol hwn wedi helpu'r Brifysgol i fod yn un o brifysgolion ymchwil-ddwys mwyaf llwyddiannus y byd.

"Erbyn hyn, mae'r Brifysgol ymhlith y 5 uchaf yn y DU am ragoriaeth ymchwil ac mae ein dyled yn fawr i Syr David am ei arweiniad yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor."

Mae aelodau ar draws cymuned y Brifysgol hefyd wedi'u hanrhydeddu am eu cyfraniad rhagorol ym mhob rhan o gymdeithas.

Cafodd yr Athro Helen Houston o'r Ysgol Meddygaeth ei hurddo'n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am ei chyfraniad at addysg feddygol a gwasanaethau iechyd yn ne Cymru.

Mae'r Athro Houston yn Athro Clinigol yn Sefydliad Addysg Feddygol. Mae wedi helpu i drawsnewid addysg feddygol drwy ei gwaith ymchwil sydd wedi edrych ar ba gyngor meddygol sydd ar gael mewn ysgolion meddygol a'r rhaglenni cefnogi ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon, ymhlith meysydd eraill.

Cafodd y Gymrawd Anrhydeddus, yr Athro Laura McAllister, ei hurddo'n Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei gwasanaethau i fyd chwaraeon yng Nghymru. Yr Athro McAllister oedd Cadeirydd Chwaraeon Cymru tan yn gynharach eleni, ac mae hefyd yn aelod o fwrdd UK Sport ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru.

Hefyd cafodd Cymrawd Anrhydeddus Peter McGuffin o Sefydliad Seiciatreg Coleg y Brenin Llundain ei urddo'n Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaethau i Ymchwil Biofeddygol a Geneteg Seiciatrig.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor y Brifysgol: "Llongyfarchiadau mawr i holl aelodau cymuned y Brifysgol sydd wedi derbyn anrhydedd. Rydym yn falch iawn o weld bod eu gwaith a'u hymroddiad yn cael cydnabyddiaeth."

Rhannu’r stori hon